Hoc Est Optimum Quod Democratia Potest?

Wrth dyfu yn y 60'au a 70'au roedd yn hawdd credu bod pethau'n gwella ar gyfer pobl gyffredin. Roedd dau floc gwleidyddol pwerus yn cystadlu am oruchafiaeth, y ddau'n trio perswadio gweddill y byd mai eu system nhw oedd y gorau i'r person yn y stryd. Roedd cyfalafiaeth yn cuddio ei chrafangau.

Ond erbyn hyn does gan gyfalafiaeth dim cystadleuaeth. 'Sdim rhaid iddi guddio ei wir liwiau. I'r ychydig ar dop y domen â'r cyfoeth a'r pŵer. Tynged weddill ohonom ni yw i 'sgriblan am y briwsion sydd ar ôl.

Ond does dim rhaid i bethau fod fel hyn.

Growing up in the 60's and 70's it was easy to believe that things were improving for ordinary people. There were two powerful political blocks competing for supremacy, both trying to persuade the rest of the world that their system was the best for the person in the street. Capitalism was hiding its claws.

But by now capitalism has no competition. It has no need to hide its true colours. To the few on top of the pile goes the wealth and the power. The fate of the rest of us is to scrabble for the crumbs which are left.

But things don't have to be this way.

Safle 'We gan Meurig Parri
Website by Meurig Parri
5 Tachwedd 18 - Rhyfel a Heddwch 5 November 18 - War and Peace
100 Mlynedd ers y Cadoediad 100 Years since the Armistice
Yn naturiol gyda’r 11eg Tachwedd yn dod yn agos, a 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, mae llawer o erthyglau amdano yn ymddangos yn y cyfryngau. Fel y dylai fod; mae’n bwysig eithriadol nid ydy pobl yn anghofio am yr aberth, dioddef, a phoen a achoswyd mewn rhyfel a adawodd tua 8 miliwn o sifiliaid ac 11 miliwn milwr wedi marw.

Mae ‘na seremonïau lu i ddynodi’r achlysur mewn llawer o wledydd, a bydd y gwleidyddwyr - arweinwyr y gwledydd hynny - yn mynychu’r seremonïau hyn gyda thorchau a golwg ddifrifol ar eu hwynebau.

Onid byddai’n braf i’r gwleidyddwyr yma ystyried o ddifri oblygiadau’r rhyfel y byddant yn ei gofio? Mae’n amhosibl i feddwl dynol amgyffred ag anfadrwydd marwolaeth 19 miliwn o bobl. Ond ‘tase’r gwleidyddwyr i feddwl o ddifri a myfyrio am fywyd, marwolaeth a thrychineb hyd yn oed un o’r meirwon canrif yn ôl sut mewn difrif calon gallent barhau i ystyried rhyfel jyst fel tacteg arall i hybu eu polisïau tramor? Achos dyma’r sefyllfa. Nid oedd rheswm o gwbl i fynd i’r rhyfel yn Irac, Libya, Affganistan a Syria - dim ond oherwydd roedd yn siwtio polisïau tramor gwledydd y gorllewin, yn arbennig yr awydd i reoli cyflenwadau olew.
Pabi Gwyn

Y Senotaff yn Llundain

Maes y gad, Rhyfel Byd Cyntaf
Naturally with the 11th November approaching, and 100 years since the end of the First World War, a lot of articles about it are appearing in the media. As they should; it’s vitally important that people don’t forget the sacrifice, suffering, and pain caused in a war which left 8 million civilians and 11 million soldiers dead.

Many ceremonies to mark the occasion are being held in a lot of countries, and the politicians – leaders of those countries – will be attending these ceremonies with wreaths and a serious look on their faces.

Wouldn’t it be good for the politicians to seriously consider the implications of the war they will be remembering? It’s impossible for the human mind to comprehend the enormity of the death of 19 million people. But were the politicians to think seriously and reflect on the life, death and tragedy of even one of the dead a century ago how could they even consider continuing to use war as just another tactic to push their foreign policies? Because that is the situation. There was no reason at all to go to war in Iraq, Afghanistan and Syria – only because it suited the foreign policies of the countries of the west, especially the eagerness to control the flow of oil.
28 Hydref 18 - Newyddiaduraeth 28 October 18 - Journalism
Cyfryngau Di-duedd Impartial Media
Mae’r Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Diwylliant yng Nghaerdydd wedi symud i gartref newydd yn yr adeilad hyll sydd wedi’i adeiladu yn lle’r orsaf bysiau. Gobeithio y bydd y sloganau ar wal blaen yr adeilad yn ysbrydoli lluoedd o newyddiadurwyr wrth ddechrau ar eu gyrfeydd i fod yn benderfynol o gadw i’r egwyddor o newyddiaduraeth ddiduedd.

Oherwydd mai newyddiaduraeth ddiduedd yw’r peth olaf ein bod ni’n cael y dyddiau yma. Pump biliynydd asgell-dde - bydd llawer yn dweud asgell-dde eithafol - piau’r wasg brintiedig bron i gyd yng ngwledydd Prydain, a llawer o’r cyfryngau ar-lein a darlledu hefyd. Fel gweision bach ffyddlon i’w meistri mae’r golygyddion a newyddiadurwyr yn darparu diet cyson o gynnwys unochrog sydd, yn aml, yn bell i ffordd o’r gwir.

Dylai’r BBC fod uwchben hyn, ond dydy hi ddim. Bu ddadl rhwng Llywodraeth Llundain a’r BBC am “sexed-up dossier” Irac yn 2003, gyda bygythiadau gan wleidyddwyr y gallai’r BBC golli’r ffi drwydded. Ers hynny mae’r BBC wedi bod ar wastad ei gefn i blesio’r Blaid Dorïaidd, yn arbennig pan mae’n ffurfio’r llywodraeth. Does dim gobaith o newyddion a sylw diduedd o’r ffynhonnell yna.
Slogan ar y Wal

Tudalen flaen y Sun

Tudalen flaen y Daily Mail
The School of Journalism, Media and Culture in Cardiff has moved to an ugly building built on the site of the bus station. I hope that the slogans on the front wall of the building inspire many journalists starting on their careers to be determined to keep to the principle of impartial journalism.

Because impartial journalism is the last thing we get at the moment. Five right-wing – many would say extreme right wing – billionaires own almost all the printed press in the countries of Britain, and many of the on-line and broadcast media as well. As faithful little servants to their masters the editors and journalists provide a constant diet of one-sided content which is often far from the truth.

The BBC should be above this, but it’s not. There was an argument between the London Government and the BBC about the “sexed-up” Iraq dossier in 2003, with threats by politicians that the BBC could lose its licence fee. Since then the BBC has been supine in pleasing the Tory Party, especially when it is in government. There is no hope of impartial news and comment from that source.
15 Hydref 18 - Gwleidyddiaeth Rhyngwladol 15 October 18 - International Politics
Newid Cyfundrefn Regime Change
Am fisoedd lawer, os yw cyfryngau prif ffrwd i’w credu, y newyddion mwyaf pwysig yn y byd yw’r drwgdybaeth bod Rwsiaid wedi hacio cyfrifiaduron i ddylanwadu ar etholiad arlywyddol 2016 yr Unol Daleithiau.

Peidiwch â meddwl am y garlamu trychinebus tuag at ddinistr amgylcheddol a newid hinsawdd di-droi'n ôl. Mae'r risg o ryfel niwclear wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ond nid yw o unrhyw gyfrif. Oherwydd diffyndollaeth a sancsiynau cynyddol gallai system fasnach y byd gwympo, yn dadfaethu pawb a phobl y gwledydd tlotaf yn waeth na dim. Ond yn amlwg mae hynny o fân ddiddordeb.

Wn i ddim a haciodd y Rwsiaid y cyfrifiaduron hynny. Efallai gwnaethant. Ond onid yw pob gwlad sydd â'r wybodaeth dechnegol angenrheidiol yn ceisio hyrwyddo ei amcanion polisi tramor trwy unrhyw ddull y gallant ddefnyddio’n llwyddiannus? Ac mae hacio cyfrifiaduron i hyrwyddo 'newid cyfundrefn' mewn gwladwriaeth a ystyrir yn gelyn bosibl yn ffordd eithaf diniwed i drio gwneud hynny.

Nid oes neb yn marw o'i herwydd. Ond mae dull yr Unol Daleithiau o wthio am newid cyfundrefn yn unrhyw beth ond diniwed. Mae cannoedd o filoedd yn marw mewn ymosodiadau milwrol gan yr U.D. Yn y blynyddoedd diwethaf mae Afghanistan ac Irac wedi dioddef ymosodiadau milwrol a meddiannaeth uniongyrchol. Mae llawer o wledydd eraill wedi cael eu difrodi’n ofnadwy gan ryfeloedd dirprwyol a feithrinwyd, ac fel arfer a ariannwyd a chyfarparwyd, gan y Unol Daleithiau. Syria, Libya a Wcráin yn enghreifftiau diweddar.

Os pryderir arweinwyr yr Unol Daleithiau gymaint gan hacio honedig o'u cyfrifiaduron o dramor rhaid gofyn y cwestiwn pam nad ydynt wedi defnyddio eu gwybodaeth dechnegol uwch i roi diwedd arno? Neu a yw'n wir fod chwifio baner ymyrraeth Rwsia yn y broses ddemocrataidd dim ond tacteg wleidyddol yn system etholiadol gymylog ac annheg iawn Unol Daleithiau Amerig?
Cyfrifiadur

For many months, if the mainstream media is to be believed, just about the most important news in the world is the suspicion that Russians hacked computers to influence the 2016 United States presidential election.

Never mind the calamitous gallop towards environmental destruction and irreversible climate change. The greatly increased risk of nuclear war during the last two years is of no account. The threatened collapse of the world trade system due to ever more sanctions and protectionism could impoverish everybody and the people of the poorest countries worst of all, but that is obviously of minor interest.

I do not know whether the Russians did hack those computers. They may well have done. But does not every country which has the technical know-how try to further its foreign policy objectives by any means they can get away with? And hacking computers to promote ‘regime change’ in a potential enemy state is a fairly benign way to try to do it.

Nobody dies because of it. But the United States way of pushing for regime change is anything but benign. Hundreds of thousands die in U.S. military invasions. In recent years Afghanistan and Iraq have suffered direct military invasion and occupation. Many other countries have been ravaged by proxy wars fostered and usually financed and equipped by the U.S. Libya, Syria and Ukraine are recent examples.

If the leaders of the U.S. are so vexed by alleged foreign hacking of their computers the question must be asked why they have not used their advanced technical knowledge to put a stop to it? Or is it the case that waving the flag of Russian interference in the democratic process is really just a political tool in a very murky and unfair U.S. electoral system?
11 Awst 18 - Diwylliant a Diogelwch 11 August 18 - Culture and Safety
Yr Eisteddfod Genedlaethol The National Eisteddfod
Rhaid cyfaddef, cyn i’r Eisteddfod Genedlaethol ymddangos ym Mae Caerdydd eleni rôn i’n amheus am y syniad o gynnal ‘eisteddfod agored’ yng Nghaerdydd. Ond cefais fy siomi ar yr ochr orau. Roedd yn wych! Diolch i bawb oedd yn gyfrifol.

Un peth achosodd anesmwythder oedd presenoldeb heddlu arfog ar y maes. Dydy gynnau ddim yn cyd-fynd â’r naws heddychlon sydd yn rhan annatod o’r Eisteddfod.

Gwerthfawrogwn bob mesur a gymerir i’n cadw ni’n saff, a sylweddolaf fod elfen o risg pob tro bod torf fawr o bobl yn ymgasglu. Ond os oes rhaid i gynnau fod ar gael i’r heddlu dylent fod allan o’r golwg.

Mae gennym draddodiad hir o heddlu diarfog yng ngwledydd Prydain, ac mae’n bwysig ei gadw. Neu o leiaf os oes rhaid i gynnau fod ar gael oherwydd rhyw ddigwyddiad arbennig dylent fod yn weledol am yr amser lleiaf bosibl. Trwy i ynnau fod i’w gweld ar y strydoedd ac mewn digwyddiadau fel yr Eisteddfod mae risg sylweddol o’u troi mewn gwrthrychau ‘normal’ a chyffredin. Ac wedyn dyma ni ar y ffordd i sefyllfa fel yn yr Unol Daleithiau, lle mae cam-ddefnyddio gynnau yn drychineb cenedlaethol.

Yn ystod yr Eisteddfod gofynnir sawl tro: “A oes Heddwch?”. Ymm.
Eisteddfod

Eisteddfod

I must confess, before the National Eisteddfod appeared in Cardiff Bay this year I was doubtful about the idea of holding an ‘open eisteddfod’ in Cardiff. But it was happily surprised. It was great! Thanks to everyone responsible.

One thing which caused unease was the presence of armed police on the Maes. Guns don’t go with the peaceful character which is an essential part of the Eisteddfod.

I appreciate every step which is taken to keep us safe, and I realise that there is an element of risk every time a large crowd gathers. But if the police must have guns available they should be out of sight.

We have a long tradition of unarmed police in the countries of Britain, and it’s important to keep it. Or at least if guns must be available because of some particular incident they should be in sight for the least amount of time possible. Through guns being visible on the streets and in events like the Eisteddfod there is a substantial risk of turning them into ‘normal’ and common objects. Then we are on the way to a situation as in the United States, where the mis-use of guns is a national tragedy.

During the Eisteddfod the question is put several times: “Is there peace?”. Umm.
1 Awst 18 - Iechyd 1 August 18 - Health
Cancr Cancer
‘Sdim wedi lanlwytho ar fy safle ers Mis Ionawr y llynedd. Dyna pryd cefais ddiagnosis o gancr, ac mae wedi bod yn anodd meddwl am unrhywbeth ac eithrio ymladd yn erbyn y clefyd yna.

Ond erbyn hyn ‘dw i’n llawer gwell ac mae fy mrêns wedi dechrau gweithio eto!

Hoffwn i fynegi diolch o’r galon i’r llawer iawn o staff GIG Cymru sydd wedi fy helpu, ac sy’n fy helpu o hyd. Cywilydd ar y gwleidyddwyr ac elfennau yn y wasg sy’n cymryd pob cyfle i feirniadu’r GIG ond sydd yn aros yn dawel am y gwaith ardderchog a wneir.
Sgan

Nothing has been uploaded to my site since January last year. That is when I had a diagnosis of cancer, and it has been difficult to think of anything except fighting that disease.

But now I am much better and my brains have started working again!

I would like to express heartfelt thanks to the very many NHS Wales staff who have helped me, and are helping me still. Shame on the politicians and elements in the media who take every opportunity to criticise the NHS but who stay silent about the brilliant work which is done.
27 Ionawr 17 - Gwleidyddiath Ewropiaidd 27 January 17 - European Politics
Mandat am Gilio o'r UE? Mandate for Withdrawal from the EU?
Yn fuan, os oes gan ddiffoddwyr tân gwyn bydd yn anghyfreithlon iddynt fynd ar streic oni bai bod o leiaf 40% o aelodau’r undeb yn pleidleisio i wneud hynny. Mae'r un peth yn wir am nyrsys, gyrwyr trenau, rhai athrawon, a llawer mwy o weision cyhoeddus.

Wrth gwrs ni fyddai diffoddwyr tân, nyrsys nac unrhyw un arall sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol eisiau mynd ar streic oni bai i fater yr anghydfod bod yn ddifrifol iawn. Ond ni all yr un o'r materion hynny gymharu mewn difrifoldeb ac effaith tymor hir gyda chiliad gan y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd.

Ond mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi mesur i’r diben hwnnw yn dilyn refferendwm lle’r oedd dim ond 37% o bleidleiswyr yn cytuno gyda'r ciliad. Roedd y trothwy o gefnogaeth i weithred a fydd yn effeithio arnom ni a'n disgynyddion yn sylfaenol am genedlaethau i ddod yn is nag sydd ei angen er mwyn galw streic.

Mae gan ASau yn awr y cyfle i bleidleisio ar fesur y Llywodraeth. Ond nid yw mandad derbyniol yn bodoli am iddo fynd yn ei flaen. Dylai'r mesur fethu. Dylem dderbyn gwir neges canlyniad y refferendwm - galwad brys i'r Undeb Ewropeaidd fynd i'r afael â'r diffyg democratiaeth a dieithrio oddi wrth bobl gyffredin sydd - gyda chyfiawnhad - yn digio pobl.
David Cameron, a alwodd y refferendwm

Adwaith i ganlyniad y Refferendwm

Mae galw cryf am ail refferendwm

If firefighters have a grievance it will soon be illegal for them to strike unless at least 40% of union members vote to do so. The same is true of nurses, train drivers, some teachers, and many more public servants.

Of course neither firefighters, nurses or any other people providing vital public services would want to strike unless the issue in dispute was very serious. But none of those issues can compare in seriousness and longterm effect with a withdrawal by the United Kingdom from the European Union.

However the Government has published a bill to that purpose following a referendum in which just 37% of voters agreed with withdrawal. The threshold of support for an action which will fundamentally affect us and our descendants for generations to come was lower than that needed for a strike.

MPs now have the opportunity to vote on the Government’s bill. An acceptable mandate simply does not exist for allowing it to go forward. The bill should fail, and the referendum result accepted for what it was – an urgent call to the European Union to get to grips with the lack of democracy and alienation from ordinary people which people justifiably resent.
8 Ionawr 17 - Gwleidyddiath Rhyngwladol 8 January 17 - International Politics
Deallusrwydd a Phropaganda Intelligence and Propaganda
Os credir y cyfryngau prif ffrwd mae Rwsia, ac yn enwedig Vladimir Putin, yn gyfrifol am seiber hacio yn y U.D.A. a rhyddhau i'r cyhoedd negeseuon e-bost y Blaid Ddemocrataidd. Dywedir wrthym gwnaed hyn gyda'r bwriad o ddylanwadu pleidleiswyr yn yr etholiad arlywyddol i ffwrdd o Hilary Clinton tuag at Donald Trump.

Ond nid oes tystiolaeth wedi’i dangos i gefnogi'r honiad hwn. Clywn fod 'na dystiolaeth i'r perwyl hwn, ond - fel arfer - 'diogelwch cenedlaethol' yw'r rheswm pam na all pobl gael gwybod beth ydyw.

Ond prin yw’r sôn am y materion gwirioneddol bwysig yn y mater hwn.

Os (a mawr yw’r “os”) mae Rwsia wedi defnyddio tactegau electronig i ddylanwadu ar yr etholiad rhaid gofyn y cwestiwn: Pa un yw'r trosedd mwyaf - i hyrwyddo newid llywodraeth mewn gwlad arall trwy hacio i mewn a rhyddhau negeseuon e-bost, neu drwy oresgyn y wlad honno gyda grym milwrol?

Rwy'n amau ni fyddai perthnasau'r 150,000 o Iraciaid a laddwyd yn y rhyfel 2003 yn cael unrhyw anhawster gyda'r ateb.

Os fydd gwlad yn hybu, ariannu a chyfarparu gwrthryfelwyr i ymladd rhyfel sifil mewn gwlad arall gyda'r nod o newid y llywodraeth ai dyma fwy neu lai anfad na hacio cyfrifiaduron? Unwaith eto, bydd llawer o bobl yn Syria a Wcráin yn debygol o roi ateb pendant iawn.

Y gwir yw yn y byd annymunol o strategaeth polisi tramor y pwerau mawr defnyddir pob dull sydd ar gael iddynt i osod llywodraethau sympathetig mewn gwledydd eraill.

Yr ail bwynt yw pam ystyrir rhyddhau'r e-byst yma gan y Blaid Ddemocrataidd yn weithred mor ddylanwadol? Mae'n debyg eu bod yn dangos ymdrechion grymus a pharhaus gan bwysigion a swyddogion y blaid i anfri Bernie Saunders, un o'r rhai oedd yn ceisio ymgeisyddiaeth Ddemocrataidd yn yr etholiad arlywyddol.

Felly mae’r cyfryngau yn saethu'r cennad (honedig) tra'n anwybyddu'r neges. Mae gwledydd yn disgwyl i wledydd eraill ddefnyddio hoced i gael eu ffordd a gwnânt yr un peth eu hunain. Ond ydy ddemocratiaeth yn ddemocratiaeth wirioneddol os gwyrdroir y broses gyfan gan ymdrechion cudd o fewn plaid wleidyddol i eithrio ymgeiswyr posibl rhag cynnen am fod carfan o bwysigion y blaid - nid yr aelodaeth - yn penderfynu gwneud hynny?

Mae llygredd wrth wraidd democratiaeth Orllewinol os yw'r pleidiau y dylai pobl gallu ymddiried ynddynt yn defnyddio tactegau o'r fath. A'r ffordd y mae sefydliad y Blaid Lafur ym Mhrydain wedi ac yn ceisio disodli Jeremy Corbyn a'i bolisïau’n drewi o’r un ystawch.
Donald Trump, Vladimir Putin a Hilary Clinton

Rhyfel yn Ewrop

Sgrî teledu am yr helynt

Aelodau'r UE

Ymdriniaeth o'r helynt yn y cyfryngau

If the mainstream media is to be believed Russia, and especially Vladimir Putin, is responsible for cyber hacking in the U.S. and release to the public of Democractic Party e-mails. We are told this was done with the intention of swinging voters in the presidential election away from Hilary Clinton towards Donald Trump.

But no evidence has been produced to support this claim. We hear that the evidence is there, but – as usual – ‘national security’ is the reason why people cannot be told what it is.

But what about the really important issues which have barely been mentioned?

If (a big ‘if) Russia used electronic tactics to influence the election the question must be asked: Which is the greater crime – to promote regime change in another country by hacking into and releasing e-mails, or by invading that country with military force?

I suspect relatives of the 150,000 Iraqis killed in the 2003 war will have no difficulty with the answer.

If a country encourages, finances and equips rebels to fight a civil war in another country with the aim of changing the the government is that more or less evil than hacking computers? Again, a lot of people in Syria and Ukraine will probably have a very definite answer.

The truth is that in the unsavoury world of big-power foreign policy strategy countries use every means at their disposal to install sympathetic governments in other countries.

The second point is why was the release of these Democratic Party e-mails thought to be so influential? Apparently they showed sustained and powerful attempts by grandees and officials of the party to discredit Bernie Saunders, one of those seeking the Democratic candidacy in the presidential election.

So the media are shooting the (alleged) messenger whilst ignoring the message. Countries expect other countries to use skullduggery to get their way and they do the same themselves. But is a democracy really a democracy if the entire process is subverted by secret attempts within a political party to exclude potential candidates from contention because the party establishment – not the membership – decides to do so?

There is corruption at the heart of of Western democracy if the parties which people should be able to trust use such tactics. And the way that the the Labour Party establishment in Britain has and is attempting to oust Jeremy Corbyn and his policies reeks with the same stench.
8 Rhagfyr 16 - Gwleidyddiaeth Ewropeaidd 8 December 16 - European Politics
Ydy Brecsit yn Meddwl Brecsit? Does Brexit Mean Brexit?
Heddi mae Llys Goruchaf gwledydd Prydain wedi gorffen clywed tystiolaeth yn yr achos am dynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd (UE). Oes gan y Prif Weinidog a’r Llywodraeth yr hawl i’w wneud, neu oes rhaid i’r Senedd yn San Steffan awdurdodi’r cytundeb?

Disgwylir penderfyniad erbyn diwedd Mis Ionawr.

Yn dilyn y refferendwm am aelodaeth o’r UE ym Mis Mehefin mae’r gwybodusion wedi bod yn cynnig llawer o resymau am y mwyafrif annisgwyl o blaid gadael, y ‘Brecsit’ bondigrybwyll. Hiliaeth, teimladau ‘Lloegr Bach’, addewidion ffals gan yr ymgyrch dros adael, anfodlonrwydd gyda’r gyfundrefn wleidyddol yn gyffredinol, ac ati. Ond prin oedd y trafod am anfodlonrwydd gyda’r UE ei hun.

Ac mae ‘na resymau dros fod yn anhapus gyda’r sefydliad hwnnw.

Dechreuodd y corff (fel y Gymuned Haearn a Dur Ewrop) yn fuan ar ôl y Ail Ryfel Byd gyda chwe aelod. Dros y 30 mlynedd nesaf y’i hehangodd (a newidiwyd yr enw) i gyrraedd y 28 heddiw. Yn y dechrau roedd amcanion yr Undeb yn glir: I rwystro rhyfeloedd yn Ewrop, i gydweithredu a sicrhau digon o fwyd i bawb, i hybu datblygiad economaidd ardaloedd tlawd, i ganiatáu i bob dinesydd Ewropeaidd deithio’n ddi-rwystr rhwng gwledydd sy’n aelodau’r Undeb, i gryfhau amddiffyniad o’r amgylchedd, ac i sefydlu rheolau cyffredin i amddiffyn hawliau pobl.

Pwy all ddadlau gyda’r rheiny?

Ond yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf mae pwyslais yr Undeb wedi symud i ffordd o fuddiannau pobl gyffredin i fuddiannau’r corfforaethau mawr. Trwy drio sefydlu bloc economaidd sydd yn ddigon cryf i gystadlu gyda’r Unol Daleithiau mae’r UE wedi hybu cyfalafiaeth a globaleiddio. Mae hyn wedi bod yn niweidiol i’w dinasyddion sydd ar waelod y domen economaidd. Canlyniad hyn oll yw’r llymder sydd wedi taro pobl ym mhob aelod o’r Undeb i ryw raddau er bod y cyfoeth sy’n mynd i’r rhai ar ben y goeden economeg yn cynyddu bob blwyddyn.

Mewn rhai gwledydd, megis Groeg, mae’r llymder wedi bod yn echrydus.

Rhaid gofyn pam mae hyn wedi digwydd. Pam mae’r UE wedi anghofio’i hegwyddorion? Un ffactor yw’r gwenwyn a heuwyd yn yr Undeb pan ddechreuodd Y Deyrnas Unedig (DU) fynnu telerau a chymwynasau arbennig. Ers i Margaret Thatcher ddadlu’n llwyddiannus yn 1984 am ostyngiad yn y swm aelodaeth a delir gan y DU mae gwleidyddwyr yn Llundain wedi bod yn cwffio’n gyson am delerau arbennig i sicrhau’r: “Bargen orau i Brydain”.

Dim gair am gryfhau’r UE, a sicrhau cryfder y DU trwy’i haelodaeth o’r grŵp. Dim gweledigaeth am gryfhau arian yr UE - yr Iwro - trwy ei fabwysiadu.

Wrth gwrs dydy’r 27 aelod arall ddim yn fodlon eistedd yn ôl tra bod y DU yn elwa gan delerau sy’n fwy ffafriol na’r telerau sy’n berthnasol iddyn nhw. Maen nhw eisiau triniaeth arbennig hefyd. Dydy’r tîm ddim yn chwarae fel tîm bellach, ac mae’r tîm yn llawer gwannach o’i herwydd.

Er gwaethaf y ffaeleddau mae’n well o lawer i wlad Ewropeaidd fod yn y UE na thu allan, yn wynebu’r byd economeg a gwleidyddol oer mewn arwahanrwydd unig. Dylem gydnabod y refferendwm am beth oedd e - gimig a gynlluniwyd i arbed y Blaid Dorïaid rhag mewnffrwydrad. Roedd y refferendwm hwnnw yn alwad i’n gwleidyddwyr ddeffro, nid penderfyniad pendant ac ystyrlon o blaid polisi a fydd yn effeithio ar bob un ohonom ac ein plant am flynyddoedd lawer i ddod. Ni ddylai gwledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd.
Gwledydd Prydain yn ymuno'r UE

Rhyfel yn Ewrop

Y Blaid Toriaid a'r UE

Aelodau'r UE

Senedd yr Undeb Ewropeaidd.

Papur pleidleisio yn y refferendum

Today the Supreme Court finished hearing evidence in the case about withdrawing from the European Union (EU). Does the Prime Minister and the Government have the right to do this, or must Parliament authorise the agreement?

The decision is expected by the end of January.

Following the referendum about membership of the EU in June the pundits have been offering many reasons for the unexpected majority in favour of leaving, the veritable ‘Brexit’. Racism, ‘Little England’ sentiments, false promises by the ‘Leave’ campaign, disaffection with the political system in general, etc. But rare was the mention of disaffection with the EU itself.

And there are reasons to be unhappy with that establishment.

The organisation started (as the European Iron and Steel Community) soon after the Second World War with six members. Over the next 30 years it expanded (and the name changed) to reach 28 today. At the start the aims of the Union were clear: To prevent wars in Europe, to co-operate to ensure enough food for all, to promote the economic development of poor areas, to allow all European citizens to travel without restriction amongst countries which are members of the Union, to strengthen environmental protection, and to establish common rules to protect people’s rights.

Who could argue with that?

But during the last twenty years the emphasis of the Union has moved away from benefit for ordinary people to benefit for the big corporations. By trying to establish an economic group strong enough to compete with the United States the EU has promoted capitalism and globalisation. This has been harmful to citizens who are at the bottom of the economic pile. The result has been the austerity which has struck every member of the Union to some degree although the wealth which goes to those at the top of the economic tree increases every year.

In some countries, for example Greece, austerity has been horrible.

It must be asked how has this happened. Why has the EU forgotten its principles? One factor is the poison sown in the Union when the United Kingdom (UK) started to insist on special rules and favours. Since Margaret Thatcher successfully argued in 1984 for a reduction in the membership fee politicians in London have constantly been looking for special terms which secure “the best deal for Britain”.

Not a word about strengthening the EU, and ensuring the strength of the UK through its membership of the group. No vision about strengthening the EU’s money – the Euro – by adopting it.

Of course the other 27 members aren’t content to sit back while the UK benefits from terms which are more favourable than the terms which apply to them. They want special treatment too. The team doesn’t play as a team any more, and the team is much the weaker because of it.

Despite these faults it’s much better for a European country to be in the EU than outside, facing the cold economic and political world in lonely isolation. We should recognise the referendum for what it was – a gimmick designed to save the Tory Party from implosion. That referendum was a wake-up call for our politicians, not a decisive and considered decision for a policy which will effect every one of us and our children for many years to come. The countries of Britain should not leave the European Union.
28 Tachwedd 16 - Gwleidyddiaeth Ryngwladol 28 November 16 - International Politics
Fidel Castro a Ciwba Fidel Castro and Cuba
Er marwolaeth Fidel Castro mae mwyafrif y prif gyfryngau wedi taflu pob math collfarn yn ei erbyn. Dywedir yr oedd yn unben ac yn deyrn a lethodd chwant ei bobl am ddemocratiaeth yn greulon.

Ond prin yw’r cyfryngau sy’n edrych yn ddyfnach. Ers hanner ganrif mae Ciwba wedi dioddef gwarchae economeg a therfysgol gan yr Unol Daleithiau a gynlluniwyd i yrru’r wlad yn ôl i’r oesoedd tywyll. Mae’r UD yn fwriadol wedi gwneud popeth yn ei gallu i ddadfaethu’r wlad a dinistrio ei economi a llywodraeth.

Os oes unrhywun yn credu y gall ddemocratiaeth ffynnu o dan yr amgylchiadau hyn dylent edrych yn ôl i’r 1940’au yng ngwledydd Prydain. Roedd Prydain yn dioddef gwarchae a ddaeth yn agos at ddinistrio’r economi. Ataliwyd democratiaeth, ac mewn gwirionedd roedd unbennaeth gennym. Rhoddwyd cyfyngiadau enfawr ar ryddid personol. Roedd y rhai a anufuddhaodd orchmynion y Llywodraeth am fannau y gallech fynd, beth y gallech drafod, neu pa fwyd y gallech fwyta, mewn perygl o gael eu cosbi’n llym. Ac wrth gwrs doedd dim etholiadau. Roedd gennym wladwriaeth un-blaid.

Aflwydd enfawr Ciwba oedd gorfod mynd trwy’r un profiad. Ond peidiwch â rhoi bai ar y dioddefwr. Rhowch y bai lle mae’n perthyn, ac mae hyn gyda pholisïau creulon yr Unol Daleithiau.
Fidel Castro a Vilma Espin

Yn Habana

Cartwn am y Gwarchae

Yn Habana.

Ffatri Siwgr wedi'i gau.

Since Fidel Castro’s death most of the main-stream press have enjoyed a field-day of condemnation. We are told he was a dictator and a despot cruelly suppressing the desire of his people for democracy.

But virtually none of the media are looking deeper. For the last half-century Cuba has suffered an economic and terrorist blockade by the United States designed to send the country back to the dark ages. The US has deliberately done everything it could to impoverish the country and destroy it’s economy and government.

If anybody believes that democracy could prosper under such circumstances they should look back to the 1940’s in the countries of Britain. Then Britain was suffering a blockade which came close to destroying the economy. Democracy was suspended, and we had an effective dictatorship. Personal freedoms were hugely limited. Heavy punishments awaited those who disobeyed the government’s dictates about where you could go, what you could talk about or what food you could eat. And of course there were no elections. We had a one-party state.

It is Cuba’s huge misfortune that it has had to go through the same experience. But don’t blame the victim. Put the blame where it really belongs, and that is with the inhuman policies of the United States.
18 Medi 16 - Cynwysoldeb 18 September 16 - Inclusiveness
Pobl Hardd y BBC The Beautiful People of the BBC
Prin bod pobl Cymru’n deall pam roedd rhaid colli gorsaf fysiau Caerdydd er mwyn adeiladu swyddfeydd y BBC reit yng nghanol y Ddinas. Siŵr yr oedd yr orsaf bysiau, reit drws nesaf i’r brif orsaf drenau, llawer mwy defnyddiol i bobl y ddinas, a phobl sy’n dod i Gaerdydd o leoedd eraill, na phlas o swyddfa i gwmni darlledu.

‘Ta waeth, mae’r gwaith o adeiladu’r swyddfeydd newydd yn mynd yn ei blaen. Ac ar y ffens o gwmpas y safle adeiladu mae posteri wedi’u codi i ddangos i ni sut bydd yr adeilad newydd yn edrych. Ond edrychwch yn ofalus ar y poster. Sylwch ar y bobl bod y BBC yn disgwyl eu gweld o gwmpas a thu mewn i’u swyddfeydd newydd. Maen nhw i gyd yn bobl hardd. Neb sy’n hen. Prin iawn yw’r wynebau duon, a’r pennau mewn hijab. Does neb sy’n ordrwm. Ac er bod llawer o bobl dlawd neu’n ddigartref yng Nghaerdydd does neb ohonynt yn y llun yma.

A does dim gair o Gymraeg yn yr arwyddair a argraffir ar y poster.

Ydy hyn yn argyhoeddi’n dda y bydd y BBC yn ei swyddfeydd newydd yn adlewyrchu cymeriad amrywiol Cymru?
Poster ar safle adeiladu swyddfa'r BBC yng Nghaerdydd

It’s hard for the people of Wales to understand why Cardiff’s bus station had to go to make way for BBC offices, right in the centre of the city. There’s no doubt that the bus station, right next door to the main train station, was much more useful to the people of the city, and people coming to Cardiff from other places, than a palatial office for a broadcasting company.

But the building work on the new offices is going ahead. And on the fence around the building site posters have been put up showing how the new offices will look. Take a look at the people that the BBC expect to see around and in their new offices. They are all beautiful people. No-one old. Scarce are the black faces or heads wearing a hijab. There’s no-one overweight. And although a lot of people are poor or homeless in Cardiff none of them are in this picture.

And there’s not a word of Welsh in the slogan printed on the poster.

Does this reassure us that the BBC in its new offices will reflect the diverse character of Wales?
30 Mai 16 - Arfau Niwcliar 30 May 16 - Nuclear Weapons
Obama a Hiroshima Obama and Hiroshima
Mae’n dda bod arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, wedi ymweld â Hiroshima. Am rhy hir mae’r cysgod enfawr a roir gan arfau niwcliar dros ein dyfodol bron wedi cael ei anwybyddu. Mae ei ymweliad wedi rhoi’r mater reit yn ôl ar y tudalennau blaen ac yn y prif fwletinau newyddion.

Ond pam mae’r cyfryngau wedi canolbwyntio bron yn unig ar drafod a ddylai Mr Obama wedi ymddiheuro am yr ymosodiad niwcliar ar Siapan saith deg o flynyddoedd yn ôl? O bwysigrwydd symbolaidd – ie. Ond llawer mwy pwysig yw’r angen i glirio’r byd o arfau niwcliar heddiw.

Gyda sylw’r byd ar Hiroshima yn ystod y dyddiau diwethaf dyma adeg ddelfrydol i ddechrau trafod cytundeb rhyngwladol pwerus. Un a fyddai cynnwys nid yn unig amcan y cytundeb di-amlder niwcliar presennol o rwystro rhagor o wledydd rhag cael arfau niwcliar, ond a fyddai’n ymrwymo’r pwerau niwcliar presennol yn llwyr i ddinistrio eu harfdai niwcliar erbyn amserlen bendant.
Prif Weinidog Shinze Abe ac Arlywydd Barack Obama yn Hiroshima

Protest yn erbyn ymweliad Barack Obama i Hiroshima

It’s good that the United States president, Barack Obama, has visited Hiroshima. For too long the huge shadow which nuclear weapons casts over our future has been virtuallly ignored. His visit put the issue right back on the front pages and in the main news bulletins.

But why has the media concentrated almost solely on discussing whether Mr Obama should have apologised for the nuclear attack on Japan seventy years ago? Symbolically important – yes. But far more important is the need to clear the world of nuclear weapons today.

With the attention of the world on Hiroshima during the last few days this would be an ideal time to start negotiating a powerful international treaty. One which not only includes the aim of the present nuclear non-proliferation treaty of stopping any more countries getting nuclear weapons, but one which absolutely commits all the existing nuclear powers to destroy their nuclear arsenals by a fixed deadline.
14 Ionawr 16 - Arfau Niwcliar 14 January 16 - Nuclear Weapons
Sut mor ddilys yw Ataliaeth? How valid is Deterrence?
Elfen o faniffesto Jeremy Corbyn ar gyfer etholiad arweinydd y Blaid Lafur oedd ei addewid na fyddai byth fel Prif Weinidog Prydain yn lansio arfau niwclear. Hyn, ynghyd â ei safbwynt clir ar faterion eraill lle mae'n sefyll ar wahân i’r dorf wleidyddol, enillodd gefnogaeth enfawr iddo. Enillodd yr etholiad. Ac ers y diwrnod hwnnw mae haenau uchaf o’r prif bleidiau gwleidyddol i gyd - gan gynnwys ei blaid ei hun - wedi bod yn ceisio curo ei egwyddorion allan ohono. Un o'r prif ffyn a ddefnyddiant yw ei addewid am arfau niwclear.

Yn ôl y doethineb arferol mae arfau niwclear yn hanfodol ar gyfer diogelwch. Dim ond trwy eu bygwth gydag arfau niwclear atalir gelynion rhag ymosod. Ers 70 o flynyddoedd mae arfau niwclear wedi cadw heddwch yn y byd.

Ond dyma ddyfaliad i gyd. Yn wir, gellir hawlio mai osgoi rhyfel niwclear wedi bod yn fater o lwc, nid ataliaeth. Yn ystod yr argyfwng taflegrau Ciwba yn 1962 roedd Arlywydd yr Unol Daleithiau, John Kennedy, o dan bwysau enfawr oddi wrth ei ymgynghorwyr i ymosod ar Ciwba a’r llongau Rwsieg oedd ar y ffordd i Ciwba. Prin yw’r amheuaeth y byddai hyn wedi arwain at ryfel niwclear. Roedd yn agos, ond gwrthsafodd John Kennedy y pwysau.

‘Tase arlywyddion mwy diweddar megis Ronald Regan neu’r un o’r ddau George Bush wedi bod mewn grym yn 1962 mae’n annhebyg y byddai gwarediad dynol fel y’i cydnabyddir gennym yn bodoli ar y Ddaear heddiw.

Y ddadl fawr a ddefnyddir gan y rhai sydd am gadw arfau niwclear a’u datblygu’n bellach yw ataliaeth. Fydd neb yn ymosod os gwyddant y daw ddial enfawr yn ei sgil. Ond dydy arfau niwclear ddim fel arfau eraill. Maen nhw’n achosi graddfa dinistr sydd y tu hwnt i’n dychymyg ni. Fyddai neb yn ei iawn bwyll yn ystyried eu defnyddio nhw. Gweithred gwallgofddyn byddai dial yn dilyn eu defnyddio, gyda hyd yn oed mwy o arfau niwclear,

Ydy gwleidyddion y gwledydd gydag arfau niwclear sy’n pregethu ataliaeth o ddifri yn awgrymu os dinistrir hanner y byd mewn ymosodiad niwclear byddan nhw’n gorffen y dasg a dinistrio’r hanner arall?

Mae’n edrych yn debyg y bydd Prydain yn gwario £100biliwn ar ddiweddaru ei system taflegryn Trident. Mwy o fomiau. Bomiau mwy. Taflegrau sy’n gallu eu cario nhw ymhellach. A cham agosach at Armageddon.

Mae un peth yn hollol wir. Os ydym yn caniatáu i arfau niwclear fodoli ar ein planed byddant yn cael eu defnyddio, rhyw ddydd. Nid oes system wleidyddol wedi’i dyfeisio gall gwarantu y cedwir gwallgofiaid allan o’r seddau pŵer.
Bom Thermoniwclear Yellow Sun

Dinas Hiroshima, Siapan, 1945

Awyren Bomio Niwclear Vulcan B1

Y gwledydd sy'n cadw arfau niwclear

Prawf Niwclear o dan ddŵr

A plank of Jeremy Corbyn’s manifesto for election as leader of the Labour Party was his promise that as prime minister of Britain he would never launch nuclear weapons. This, plus his clear standpoint on other issues where he stands apart from the political crowd, won him huge support. He won the election. And since that day the top echelons of all the main political parties – including his own – have been trying to beat his principles out of him. One of the main sticks they use is his nuclear weapons promise.

According to accepted wisdom nuclear weapons are essential for security. Enemies can only be deterred from attacking if they can be threatened with nuclear weapons. For 70 years nuclear weapons have kept peace in the world.

But this is all surmise. Indeed it can be claimed that avoiding nuclear war has been a matter of luck, not deterrence. During the Cuban missile crisis of 1962 the United States President, John Kennedy, was under enormous pressure from his advisors to attack Cuba and the Russian ships heading for Cuba. There is little doubt that this would have led to nuclear war. But John Kennedy resisted the pressure, just.

If later presidents such as Ronald Reagan or either of the two George Bushes had been in power in 1962 it is very unlikely that human civilisation as we know it would exist on earth today.

The big argument used by those who would keep and further develop nuclear weapons is deterrence. No-body will attack if they know that huge nuclear retaliation will follow. But nuclear weapons are not like other weapons. The scale of destruction they cause is beyond our imagination. No-one in their right mind would consider using them. Retaliation following their use, with yet more nuclear weapons, would be the act of a lunatic.

Are the politicans of those nuclear armed countries who preach deterrence seriously suggesting that if half the world is destroyed in a nuclear attack they will finish the job and destroy the other half?

It looks likely that Britain will soon spend £100billion on upgrading its Trident missile system. More bombs. Bigger bombs. Missiles which can carry them further. And another step closer to Armageddon.

One thing is absolutely certain. If we allow nuclear weapons to exist on our planet they will one day be used. No political system yet devised can guarantee to keep the lunatics away from the levers of power.
3 Ionawr 16 - Dylanwad a Phŵer 3 January 16 - Influence and Power
Adrodd Streic Gyrwyr Trenau Reporting a Train Drivers' Strike
Yfory, bydd streic gan yrwyr trenau’n effeithio ar wasanaethau yn Ne Cymru. Treiddiwch yn ddwfn i’r 'we ac mae'n amlwg bod ganddynt achos cyfiawn. Ond ni fyddech yn gwybod hwn trwy’r cyfryngau arferol.

Yn rhifyn heddiw o’r papur 'Wales on Sunday' mae erthygl am y streic gyda manylion bras am y rhesymau drosto. Ond mae gogwydd yr erthygl yn ochri gydag Arriva, y cyflogwyr. Mae eich calon yn gwaedu drostynt.

A yw cyd-ddigwyddiad bod y papur hefyd yn cario hysbyseb tudalen lawn gan Arriva - brynwyd diau ar gost enfawr - yn difrïo’r streic a gadael i ni wybod sut mae'r cyhoedd a’r cyflogwyr truenus yn dioddef?

Pryd bynnag ymddangosir yr hyn a elwir yn newyddion neu gynnwys golygyddol am anghydfod mewn cyhoeddiad sydd hefyd yn derbyn refeniw hysbysebu sylweddol gan un o'r ochrau yn y ddadl mae’n anochel y bydd y cwestiwn yn codi a yw'r refeniw yma wedi talu am neu wedi dylanwadu ar y farn olygyddol.

Arfer newyddiadurol, a orfodir yn gryf, dylai fynnu os bydd unrhyw berchennog cyfryngau yn derbyn cynnwys hysbysebu a dalwyd amdano am anghydfod diwydiannol oddi wrth un ochr dylai cynnwys hysbysebu cyfartal hefyd cael ei roi i'r ochr arall, hyd yn oed os nad yw'r arian yno i dalu amdano.
Tren Arriva

Gorsaf Trenau Grangetown

Tomorrow a strike by train drivers will affect train services in South Wales. Delve deeply on the ‘web and it’s obvious that they have a just case. But you wouldn’t know that from the ordinary media.

Today’s ‘Wales on Sunday’ carries an article about the strike with sketchy details about the reasons for it. But the bias of the article sides with Arriva, the employers. Your heart bleeds for them.

Is it just a co-incidence that the paper also carries a full page advertisement by Arriva – doubtless bought at huge cost – decrying the strike and letting us how the public and the poor employers are being hard done by?

Whenever so-called news or editorial content about a dispute appears in a publication which also accepts substantial advertising revenue from one of the protaganists the question must arise whether that revenue has paid for or influenced editorial opinion.

Journalistic practice, strongly enforced, should insist that if any media proprietor wants to accept paid advertising content about an industrial dispute from one of the protaganists equal advertising content should also be given to the other side, even if the funds are not there to pay for it.
1 Ionawr 16 - Gwleidyddiaeth Prydeinig 1 January 16 - British Politics
Y System Anrhydeddau The Honours System
Mae'n bwysig mewn cymdeithas wâr y rhoir cydnabyddiaeth i'r rhai sy'n gweithio’n anhunanol er lles eu cymunedau, ar gyfer amgylchedd cynaliadwy, ac ar gyfer achosion hanfodol eraill. Fel unigolion maent yn haeddu cydnabyddiaeth, ac mae angen i'r gymuned ehangach ddangos ei bod yn gwerthfawrogi eu gwaith.

Ond ym Mhrydain mae’r system o wobrwyo gwasanaeth cyhoeddus wedi cael ei herwgipio gan sefydliad elitaidd. Mae'r rhai sy'n gwasanaethu'r sefydliad, ac yn aml yn dod yn gyfoethog iawn trwy wneud hynny, yn cael y gwobrau uchaf. Mae'r gweision bach sy'n hongian ar gynffonau cotiau gwleidyddion yn dod yn farchog. Y bobl gyffredin sy'n gweithio’n dawel i godi arian ar gyfer ymchwil canser neu amddiffyn coedwigoedd glaw yw’r rhai sy'n cael y man dlysau ar waelod y pentwr.

A beth yw'r gwobrau hyn beth bynnag? Maent yn cael eu dyfarnu gan frenhines, person sydd yn y sefyllfa demi-dduw honno’n unig oherwydd damwain ei geni. Ni wnelo gyrfa o wasanaeth cyhoeddus anhunanol ddim ag ef.

Mae'r rhan fwyaf o'r dyfarniadau yn clymu'r derbynwyr i gydnabyddiaeth o’r Ymerodraeth Brydeinig; adeiladwaith a ddiflannodd bron allan o fodolaeth yn y blynyddoedd yn dilyn yr ail ryfel byd, diolch byth. Ond sut y gallai person sydd yn cael ei wobrwyo am flynyddoedd o frwydro yn ymladd hiliaeth neu elitaeth teimlo unrhywbeth ond embaras ar gael y "Medal Ymerodraeth Brydeinig"?
Medal Ymerodraeth Brydeinig

Derbynnydd Gwobr Arglwydd

It’s important in a civilised society that recognition is given to those who selflessly work for the good of their communities, for a sustainable environment, and for other essential causes. As individuals they deserve recognition, and the wider community needs to show that it values their work.

But in Britain the system of awards for public service has been high-jacked by an elitist establishment. Those who serve the establishment, and often get very rich from doing so, get the highest awards. It’s the wheeler-dealers who hang on to the coat tails of politicians who get the knighthoods. It’s the ordinary people who quietly and doggedly raise funds for cancer research and protecting rain forests who get the baubles at the bottom of the pile.

And what are these awards anyway? They are awarded by a monarch, a person in that demi-god position purely because of the accident of her birth. A demonstrated career of altruistic public service has nothing to do with it.

Most of the awards tie the recipients to recognition of the long-defunct British Empire, an edifice which thankfully crashed almost out of existence in the years following the second world war. But how could a person who is rewarded for years of struggle fighting racism or elitism feel anything but embarrassment on being given the “British Empire Medal”?
5 Rhagfyr 15 - Cancr 5 December 15 - Cancer
Mis Tas-wedd M-ovember
Mewn neges mis yn ôl dywedais y byddwn yn tyfu mwstas i gefnogi Mis Tas-wedd, a’r ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ac arian i ymladd cancr y brostad. Llawer o ddiolch i bawb sydd wedi noddi’r tyfiant ar fy ngwefus uchaf. Ar hyn o bryd mae £47 yn y gronfa, a bydd yn cael eu rhannu rhwng mudiadau Prostate Cancer UK a Tenovus. Mwstas Meurig Parri

In a message a month ago I said that I’d be growing a moustache to support Mis Tas-wedd (M-ovember in English), and the campaign to raise awareness and money for the fight against prostrate cancer. Many thanks to everyone who has sponsored the growth on my upper lip. At the moment there is £47 in the kitty, which will be shared between Prostate Cancer UK and Tenovus.
3 Rhagfyr 15 - Rhyfel 3 December 15 - War
Gwersi i'w Dysgu Lessons to be Learnt
Roedd 2il Rhagfyr yn ddydd trist iawn. Mae ein harweinwyr wedi dedfrydu rhagor o bobl i farwolaeth a diflastod.

Deuddeg mlynedd yn ôl dwedwyd wrthym mai goresgyn Irac oedd y peth iawn a chywir i wneud. Erbyn hyn rydym yn ‘difaru’r penderfyniad yna’n arw. Yn lle gwladwriaeth sefydlog a lywodraethwyd gan unben mae ‘na anhrefn llwyr.

Wedyn dywedwyd wrthym mai goresgyn Affganistan oedd y peth iawn i wneud. Nawr - ar gost o dros 450 o fywydau Prydeinig a llawer eraill - rydym yn darganfod bod y rhai oedd yn elyn i ni yn ail-sefydlu rheolaeth yn gyflym.

Yn fuan wedyn dywedwyd wrthym mai bomio Libya oedd y peth iawn i wneud, a byddai’n rhyddhau pobl gyffredin gwladwriaeth sefydlog o grafangau unben creulon. Nawr dyma edifeirwch arall, gyda Libya yn ei ffeindio’n amhosibl sefydlu llywodraeth gredadwy ymhlith yr anhrefn.

Rydym wedi hyrwyddo rhyfel sifil yn Syria, i waredu gwlad sefydlog o unben arall. Ond mae ein busnesa wedi achosi tryblith anghredadwy, a diflastod a galar ar raddfa enfawr.

Fydd y bleidlais neithiwr i fomio Syria bod yn gamgymeriad ofnadwy arall i ychwanegu at y rhestr? Fydd achos arall i edifarhau?

Rhaid i’n harweinwyr ni wedi dysgu rhywbeth o hanes. Rhaid iddynt wybod bod rhuthro i ddefnyddio trais yn y Dwyrain Canol yn siŵr o waethygu’r sefyllfa.

Mae’n anodd osgoi’r casgliad bod polisi tramor y Gorllewin yn becso dim am bobl gyffredin, eu diogelwch, neu eu lles. Dau ddiben y polisi yw dim ond rheoli olew'r Dwyrain Canol, a gwasgu dylanwad Rwsia allan o’r ardal.

Os ydy hyn yn wir peidwch â synnu os bydd ein harweinwyr yn dweud wrthom yn fuan am ‘peth iawn i wneud’ arall. Ac wedyn bydd y awyrenau bomio yn bwrw diflastod ac anhrefn ar Iran.
Awyrenau Americanaidd F15E

Map o Syria

The 2nd December was a very sad day. Our leaders have sentenced more people to death and misery.

Twelve years ago we were told that invading Iraq was the right and morally correct thing to do. Now we bitterly regret it, and a stable state run by a dictator has been replaced by chaos.

Then we were told that invading Afghanistan was the right thing to do. Now - at a cost of over 450 British and many other lives - we are finding that those who were our enemy are fast re-establishing control.

Soon afterwards we were told that bombing Libya was the right thing to do, and would free the ordinary people of a stable state from a cruel dictator. Now this is another regret, as Libya has been pushed into almost ungovernable chaos.

We have engineered a civil war in Syria, to rid a stable country of another dictator. But our meddling has caused total chaos, and misery and grief on a huge scale.

Will last night's vote to bomb Syria be another awful mistake to add to the list? Will it be another of our 'regrets'?

Our leaders must have learnt something from history. They must know that going into the Middle East guns blazing only makes things worse.

It is hard to escape the conclusion that the foreign policy of the West cares not a jot for ordinary people, their safety, or their wellbeing. That policy is focused purely on the twin aims of controlling Middle Eastern oil, and squeezing Russian influence out of the region.

If this is the case do not be be surprised if our leaders will soon be telling us that there is another 'right thing to do'. And then the bombers will be raining misery and chaos on Iran.
29 Tachwedd 15 - Rhyfel 29 November 15 - War
Nid Bombio yw'r Ateb Bombing is Not the Answer
Gyda phleidlais yn agos yn San Steffan i benderfynu os bydd Prydain yn dechrau bomio Syria ‘dw i wedi gyrru’r neges ganlynol at fy aelod seneddol:

Annwyl Mr Doughty,

Mae’n ymddangos yn fuan iawn bydd gofyn i chi bleidleisio ar gynnig i Brydain gynnal ymgyrch bomio o'r awyr yn Syria.

Gobeithio y byddwch yn gwrthwynebu’r cynnig hwn yn gryf, a phleidleisio yn ei erbyn. Yn rhy aml yn ddiweddar rydym wedi’i dynnu i mewn i weithredoedd milwrol yn y Dwyrain Canol sydd wedi bod yn drychinebus. Yn Irac, Libya, Affganistan, a – trwy’r rhyfel dirprwyol a gefnogir, ariannir a chyfarparir gan y Gorllewin a’i gynghreiriaid – yn Syria ei hun mae diflastod enfawr wedi’i beri ar bobl y gwledydd hyn.

Ystyr mwy o weithredoedd milwrol yw mwy o ddiflastod a thrychineb i bobl gyffredin. Bydd bomio yn Syria yn lladd rhai ymladdwyr Daesh (ISIL), ond bydd y bomio yn denu llawer mwy i’w achos.

Gyda llawer o bobl eraill credaf fod yr unig ateb i’r argyfwng yw amddifadu’r corff terfysgol o recriwtiaid, arian, offer a chefnogaeth trwy newid sylfaenol mewn polisi'r Gorllewin yn yr ardal. Pan fydd pobl gyffredin y Dwyrain Canol yn sylweddoli nad oes bygythiad milwrol o’r Gorllewin neu Israel, eu bod yn rhydd i benderfynu eu tynghedau eu hunain heb i ni benderfynu pwy sydd a phwy sydd ddim yn ffit i’w harwain, ac y bydd ganddyn nhw a nhw’n unig yr hawl i reoli eu hadnoddau eu hunain - yn cynnwys olew - bydd y seiliau bod Daesh (ac Al-Qaeda a grwpiau tebyg) wedi’i hadeiladu arnynt wedi mynd.

Wrth i’r bleidlais gael ei galw erfyniaf arnoch i bleidleisio yn ei herbyn, ac i annog eich cymdeithion yn y Senedd i wneud yr un peth.
Poster 'Bomio Irac

David Cameron a Tornado

With a vote soon expected in Westminster to decide whether Britain will start to bomb Syria I have sent the following message to my member o parliament:

Dear Mr Doughty,

It seems that very soon you will be asked to vote whether an air bombing campaign should be conducted by Britain in Syria.

I hope you will strongly oppose this motion, and vote against it. Too often during recent years we have been sucked into military action in the Middle East which has been disastrous. In Iraq, Libya, Afghanistan and – through the proxy war encouraged, financed and equipped by the West and its allies – in Syria itself huge misery has been inflicted in our name on the populations of those countries.

More military action will mean yet more misery and tragedy for ordinary people. Bombing in Syria will kill some Daesh (ISIL) fighters, but that bombing will recruit many more to their cause.

With many others I believe that the only answer to the crisis is to starve the terrorist organisation of recruits, funds, equipment and support by a fundamental change of Western policy in the region. When ordinary people in the Middle East realise that they face no military threat from the West or Israel, that they will be free to decide their own destinies without us deciding who is and who is not fit to lead them, and that they and only they will have control of their own resources – including oil – the very foundations on which Daesh (and Al-Qaeda and similar groups) are built will be gone.

When the vote is called please vote against it, and urge your companions in Parliament to do the same.
10 Tachwedd 15 - Democratiaeth 10 November 15 - Democracy
Brwydr y Swffragetiaid The Suffragettes' Battle
Mi es i weld y ffilm ‘Suffragette’ dros y penwythnos. Yn ogystal â bod yn adloniant da mae’n llwyddo i ddangos tipyn o aberth a dioddefaint y merched a gymerodd ran yn yr ymgyrch.

Ar ddiwedd y ffilm daeth nifer o eglurynnau ar y sgrin yn dangos y dyddiadau pryd llwyddodd ymgyrchoedd am i ferched gael pleidleisio mewn ambell wlad. Rhoddwyd yr argraff bod y frwydr mwy neu lai wedi’i hennill.

Ond beth sydd wedi’i hennill? Beth sydd wedi digwydd i’r ‘democratiaeth’ bod pobl wedi dioddef cymaint i gyflawni?

Oes - erbyn hyn mae’r bleidlais gyda ni bron i gyd. Ond beth yw gwerth y bleidlais hon pan – yn rhy aml – does ond y mymryn lleiaf o wahaniaeth rhwng polisïau’r gwleidyddion sydd ar y papur pleidleisio?

Dau fis yn ôl gwelsom fymryn o ddemocratiaeth go iawn. Yn erbyn yr ots i gyd, rhoddodd aelodau cyffredin y Blaid Lafur clamp o fuddugoliaeth i Jeremy Corbyn yn yr etholiad am arweinydd y blaid. Os oedd ‘na fandad poblogaidd erioed, dyma fe.

Ond ydy aelodau senedd Lafur - y bobl sy’n gofyn i ni bleidleisio drostynt - yn parchu’r penderfyniadau democrataidd eu haelodau? Na. Mae llawer ohonynt yn ymuno gyda’r Torïaid a’r cyfryngau torfol i danseilio rhaglen radicalaidd Mr Corbyn ar bob achlysur posibl.

Maen nhw’n glynu at ‘ddemocratiaeth’ ffug lle mae bron y holl sefydliad gwleidyddol yn hapus i weld y cyfoethog fynd yn gyfoethocach a’r tlawd mynd yn dlotach. Efallai byddai gweithredu’n effeithiol yn erbyn newid yn yr hinsawdd yn difrodi eu gyrfaoedd. Ac maen nhw’n cau eu llygaid i’r ffolineb gwirion o gadw arfau niwcliar sy’n dal y bygythiad o ddiwedd bywyd gwareidd ar ein planed drostom i gyd.
Poster 'Suffragette

Dyfyniad gan Gandhi

Churchill

Jeremy Corbyn

Milliband a Cameron

I went to see the film ‘Suffragette’ over the weekend. As well as being good entertainment it succeeds in showing a little of the sacrifice and suffering of the women who took part in the campaign.

At the end of the film a number of captions appeared on the screen showing the dates when campaigns for female suffrage succeeded in several countries. The impression was given that the battle has been more or less won.

But what has been won? What has happened to the ‘democracy’ which people struggled so hard to achieve?

Yes – by now almost all of us have the vote. But what is the worth of this vote when – far too often – there is nothing but the tiniest difference between the policies of the candidates who are on the ballot paper?

Two months ago we saw a glimse of true democracy. Against all the odds, the ordinary members of the Labour Party gave a huge victory to Jeremy Corbyn in the election for leader of the party. If there ever was a popular mandate, this was it.

But do Labour members of parliament – the people who ask us to vote for them – respect the democratic decisions of their members? No. Many of them join with the Tories and the mass media to undermine the radical programme of Mr Corbyn at every possible opportunity.

They cling to a false ‘democracy’ in which almost the entire political system is happy to see the rich getting richer and the poor getting poorer. Perhaps acting effectively against climate change would damage their careers. And they close their eyes to the stunning folly of keeping nuclear weapons which holds the threat of the end of civilised life on our planet over us all.
5 Tachwedd 15 - Cancr 5 November 15 - Cancer
Mis Tas-wedd M-ovember
Yn flynyddol bellach dynodir Mis Tachwedd fel Mis Tas-wedd (M-ovember yn Saesneg) pryd bydd ymdrech arbennig i godi ymwybyddiaeth o gancr y brostad, ac i godi arian i ymladd yn ei erbyn. Anogir dynion i dyfu mwstas, ac i godi arian nawdd trwy ei wneud.

Felly bwriadaf drio. Debyg y byddaf yn edrych deng mlynedd yn hŷn gyda thyfiant ar fy ngwefus uchaf, ond yr ateb yw peidio edrych yn y drych. Ychwanegir llun i’r dudalen hon ar ddiwedd y mis.
Mwstas

Mwstas
Every year November is denoted as M-ovember (Tas-wedd in Welsh) when a special effort is made to raise awareness of prostrate cancer, and to raise money to combat it. Men are urged to grow moustaches, and to raise money by being sponsored for doing it.

So I’m going to try. It’s likely I’ll look ten years older with growth on my upper lip, but the answer is not to look in the mirror. I’ll add a picture to this page at the end of the month.
11 Medi 15 - Ffoaduriaid 11 September 15 - Refugees
Cyfrifoldeb Pwy? Whose Responsibility?
Heddiw yw fy mhen-blwydd. Penblwydd hefyd y weithred ffiaidd a gostiodd bywydau tair mil o bobl yn Efrog Newydd yn 2001. A dyna oedd cychwyn gweithredodd ffiaidd gan wledydd y gorllewin sydd wedi bod yn bomio pobl y Dwyrain Canol bron yn ddi-baid ers 2003.

Yn y bôn dyma pam mae’r byd yn wynebu argyfwng ffoaduriaid erbyn hyn. Mae bomiau’r gorllewin wedi ansefydlogi Iraq, Affganistan, Libya, a – trwy’r rhyfel dirprwyol bod y gorllewin wedi dechrau yna – Syria.

Heb sôn am y diflastod dynol sydd wedi’i achosi, mae’n rhyfedd o beth bod gwledydd y Gorllewin wedi gwario bilynnau i greu’r argyfwng ffoaduriaid, ond maen nhw’n gyndyn iawn i wario arian i’w datrys. A bydd angen arian mawr. Nid creu ambell wersyllfa ffoaduriaid yn yr anialwch yw’r ateb. Ac er y dylem dderbyn a chroesawu yn ein gwledydd y ffoaduriaid i gyd sydd wedi gorfodi ffoi o’u cartrefi nid dyma’r ateb yn y tymor hir.

Bydd rhaid gwario’r arian sydd eu heisiau yn y Dwyrain Canol i adfer yr adeiladwaith ac economïau a dinistriwyd gennym.

Pwy ddylai cario rhan fwyaf y baich yma? Y wlad sydd wedi achosi rhan fwyaf y dinistr dylai talu rhan fwyaf y gost. Sef yr Americanwyr.
Awyren AF-15E Americanaidd

Bomio Irac

Ffoaduriaid
Today is my birthday. It’s also the anniversary of the atrocious attack which cost three thousand lives in New York in 2001. And that was the start of the atrocious attacks by western countries which have been bombing people in the Middle East almost continuously since 2003.

In essence that is why the world is now facing a refugee crisis. Bombing by the west has destabilised Iraq, Afghanistan, Libya and – through the proxy war which the west has started there – Syria.

Not to mention the human misery which has been caused, it is strange that the countries of the west have spent billions creating the refugee crisis, but they are very reluctant to spend money to end it. And it will take huge expenditure. Creating some refugee camps in the desert isn’t the answer. And although we should accept and welcome in our countries all refugees who have been forced to flee their homes this is not the answer in the long term.

The money which is needed must be spent in the Middle East restoring the infrastructure and economies which we destroyed.

Who should pay the largest share of this money? The country which caused most of the destruction should pay most of the cost. That is the Americans.
19 Gorffennaf 15 - Rhyfel 19 July 15 - War
Dunkerque 1940 Dunkerque (Dunkirk) 1940
‘Dw i newydd orffen darllen y llyfr ‘Atonement’, gan Ian McEwan. Llyfr arbennig o dda, sy’n disgrifio adwaith gwraig ifanc i ganlyniad trychinebus celwydd ei bod wedi dweud pan roedd hi’n blentyn.

Ond un o’r pethau mwyaf trawiadol am y llyfr i fi oedd yr adran sy’n ymwneud â chiliad milwyr Prydeinig, Ffrengig a Belgaidd o Dunkerque yn 1940. Roedd fy nhad yn rhan o honna. Ond er i fi ofyn troeon pan rôn i’n fachgen chefais ddim gair oddi wrtho am ei brofiadau yna.

Roedd hyn yn rhyfedd i fachgen ifanc. Mae stori Dunkerque wedi dod lawr i ni fel buddugoliaeth anhygoel yn erbyn ots mawr. ‘Tase nhad yn rhan o honno, pam na fuasai’n fodlon siarad amdani?

Wrth gwrs nid ydy’r disgrifiadau yn ‘Atonement’ yn honni bod yn ffeithiol gywir. Ond wrth ei ddarllen cefais deimlad am y tro cyntaf ‘mod i’n deall mymryn o’r erchylltra a ddioddefwyd gan y milwyr ar y traethau. Ac efallai pam roedd mor anodd siarad amdani.
Llyfr Atonement

Ciliad o Dunkerque

I’ve just finished reading the book ‘Atonement’ by Ian McEwan. A very good book, which describes the reaction of a young woman to the tragic result of a lie she told when she was a child.

But one of the most striking things about the book for me was the section dealing with the withdrawal of British, French and Belgian soldiers from Dunkerque in 1940. My father was part of that. But although I asked him many times when I was a boy I never got a word from him about his experience there.

This was strange to a young boy. The story of Dunkerque has been passed down as an incredible victory against great odds. If dad had been part of it, why would he not speak about it ?

Of course the descriptions in ‘Atonement’ don’t pretend to be factually correct. But as I read it I had the feeling for the first time that I had a small understanding of the horrors suffered by the soldiers on the beaches. And perhaps the reason why it was so hard to talk about them.
30 Mehefin 15 - Democratiaeth 30 June 15 - Democracy
Ble'r Mae'r Arian yn Mynd? Where Does the Money Go?
Efallai y bydd heddiw yn dyngedfennol yn hanes Ewrop. Mae’r Undeb Ewropeaidd yn mynnu bod Gwlad Groeg yn ad-dalu 1.6 biliwn iwro i’r Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) heddiw. Ac mae’n mynnu bod y Groegiaid yn derbyn pecyn o fesurau a fyddai gyrru’r tlotaf yn eu cymdeithas i dlodi hyd yn oed mwy.

Ar hyn o bryd mae’n ymddangos ni fydd Groeg yn talu.

Pam does neb yn cwestiynu system lle mae’r cyfoethog - yn yr achos yma'r banciau sy’n pwyso’n greulon o lym ar Groeg - yn mynd hyd yn oed yn gyfoethocach ar draul y tlawd? Mae llawer o bobl yng Ngroeg - pensiynwyr yn arbennig - wedi gweld eu hincwm yn disgyn gan draean dros y tair blynedd diwethaf. Yn aml iawn yr ychydig o incwm sydd ar ôl yn gorfod cadw teulu cyfan, oherwydd bod diweithdra mor uchel.

Ond yn fwyfwy mae cyfoeth anhygoel yn mynd i ddwylo bancwyr, cyfranddalwyr a phenaethiaid cwmni mawr, a’r gamblwyr (neu barasitiaid?) sy’n sugno cymaint o gyfoeth allan o economi’r byd yn y marchnadoedd stoc a’r ‘diwydiant gwasanaethau ariannol’. Mae grŵp o ddynion (a dynion ydynt) mor fach y gall ffitio mewn un bws deulawr bia hanner cyfoeth y byd.

‘Sdim rhaid bod fel hyn. ‘Tase rhan fwyaf llywodraethau gwledydd y byd ddim ym mhocedi’r cyfoethog ac yn gwando ar eu pobl byddai siawns gweld cyflwyniad system newydd, lle mae rhaniad teg o arian ac adnoddau’r byd rhwng pawb. A blaenoriaeth at ddiogelu’r adnoddau hyn ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Blaenoriaethau

Pensiynwyr Groegaidd
Perhaps today will be fateful in the history of Europe. The European Union is insisting that Greece repays 1.6 billion euros to the International Monetary Fund (IMF) today. And it is insisting that Greece accepts a package of measures which will drive the poorest in their society to even greater poverty.

At the moment the signs are that Greece will not pay.

Why does no-one question a system in which the richest – in this case the banks which are pressing cruelly austere measures on Greece – become even richer on the backs of the poor? Many people in Greece – especially pensioners – have seen their incomes drop by a third over the last three years. Very often the little which is left has to support a whole family because unemployment is so high.

But more and more unimaginable wealth goes to bankers, shareholders and heads of large companies, and the gamblers (or parasites?) who suck so much wealth out of the world economy in the stock markets and the ‘financial services industry’. A group of men (and men they are) so small that they would fit in a double deck bus own half the wealth of the world.

It doesn’t have to be like this. If most of the world’s governments were not in the pockets of the rich and listened to their people we could see a new system, with a fair division of money and resources between everybody. And priority given to safeguarding these resources for generations to come.
2 Mehefin 15 - Gwleidyddiaeth Prydeinig 2 June 15 - British Politics
Arweinyddiaeth y Blaid Lafur Leadership of the Labour Party
Os ydym yn credu adroddiadau yn y wasg mynnodd asiant Tony Blair, cyn Prif Weinidog gwledydd Prydain, ffi o £250,000 a £80,000 o dreuliau am iddo siarad am 20 munud mewn cynhadledd sydd yn digwydd yn Sweden.

Mae tu hwnt i eironi bod thema’r cyhadledd ‘Eat’ yw tlodi a newyn yn y byd.

Ar hyn o bryd, mae pedwar yn ymladd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn dilyn y grasfa etholiadol y mis diwethaf. Yn y wasg y llinyn mesur i’w barnu nhw yw sut mor ffyddlon ydynt i athroniaeth Blair. Fuasen nhw’n mynd â’u plaid ar ffordd 'Llafur Newydd' Tony Blair a wnaeth y Blaid Lafur bron yn anwahanol i’r Torïaid? Rhoddodd y trychineb hwn bobl gyffredin ar waelod y blaenoriaethau economeg - yn bell tu hwnt i’r cyfoethog a busnes mawr pan oedd penderfynu polisi yn y cwestiwn.

Mae’n siarad cyfrolau bod cysgod mawr dros yr etholiad arweinyddiaeth hwn yn cael ei daflu gan Tony Blair. Dyn o wanc enfawr personol, a ddylai fod o flaen ei well am droseddau rhyfel yn Irac. Ni ddylai fod ganddo unrhyw ddylanwad mewn unrhyw blaid sy’n cadw’r mymryn lleiaf o egwyddor sosialaidd.
Montage Tony Blair

If news reports are to be believed the agent for Tony Blair, the ex-Labour Prime Minister of the countries of Britain, demanded a fee of £250,000 plus £80,000 expenses for him to speak for 20 minutes at a conference currently being held in Sweden.

It is beyond irony that the theme of the ‘Eat’ conference is world hunger and poverty.

At the moment, four hopefuls are battling it out for leadership of the Labour Party following last month’s election thrashing. The comparisons between the four hinge on how much of a ‘Blairite’ they are. Would they take their party down Blair’s ‘New Labour’ road which made the Labour Party almost indistinguishable from the Tories? That disaster put ordinary people at the bottom of the economic pile – far behind the the rich and big business when policy was being decided.

It speaks volumes that a large shadow over this leadership election is being cast by Tony Blair. He is a man of huge personal greed who should be tried for war crimes in Iraq. He should have no influence in any party which retains even a spark of socialist principle.
10 Mai 15 - Gwleidyddiaeth Prydeing 10 May 15 - British Politics
Etholiad Cyffredinol, 7 Mai 15 General Election, 7 May 15
Yn dilyn yr etholiad i Senedd Westminster Dydd Iau bydd rhaid i bobl gyffredin gwledydd Prydain dioddef pum mlynedd arall o ddioddef, tra bydd y cyfoethog yn dod yn gyfoethocach. Duw a’n helpo gyda’r toriadau sydd ar y ffordd i’n gwasanaethau cyhoeddus a budd-daliadau i’r anghenus, ac i ehangiad annhegwch y ‘cytundebau dim oriau’.

Ac - er gwaethaf ei waith caled a diffuantrwydd - rhaid rhoi llawer o’r bai ar arweinydd y Blaid Llafur, Ed Miliband. Penderfynodd ymuno yng nghytgan gweddill y sefydliad gwleidyddol Lloegr a’r cyfryngau yn Llundain o ddiawlio Plaid Genedlaethol yr Alban, yr SNP.

Roedd pawb yn gwybod petai senedd grog ar ôl yr etholiad byddai rhaid i’r Blaid Lafur gweithio gyda’r SNP. Roedd angen paratoi etholwyr Lloegr i dderbyn hyn.

Ond llwyddodd y diawlio i wneud dau beth. Cymerwyd gan lawer o bobl yn yr Alban yr ymosod ffiaidd ar yr SNP fel sarhad ar yr Alban, ac felly cynyddwyd cefnogaeth i’r SNP. A pherswadiwyd nifer fawr o bleidleiswyr yn Lloegr y byddai llywodraeth gyda’r Blaid Llafur yn gweithio gyda’r SNP y peth nesaf i agor genau uffern. Well ganddynt y Toriaid.

Wrth gwrs mae gwahaniaethau mawr ym mholisïau’r Blaid Lafur a’r SNP, ar Trident ac annibyniaeth yn arbennig. Ond mae gan y ddwy blaid llawer yn gyffredin. Neu dylai fod, os oes gan y Blaid Lafur unrhyw hawl i’w galw ei hun yn blaid sosialaidd bellach.

Mae ôl-ddoethineb yn beth ardderchog, yn ôl y dyweddïad. Ond nid ôl-ddoethineb yw hon. Cafodd y Blaid Lafur lawer o gyngor i baratoi i weithio gyda’r SNP, nid i wneud hyn yn amhosibl. Mae’r bai am ddioddefaint miliynau o bobl gwledydd Prydain yn ystod y pum mlynedd nesaf yn cwympo ar Mr Miliband a’r Blaid Lafur am eu methiant i wrando.
Ed Miliband

Gorymdaith yn erbyn llymder

Ed Miliband

Following the election to the Westminter Parliament on Thursday the ordinary people of the countries of Britain will have to suffer five more years of suffering, while the rich get richer. God help us with the cutbacks which are on the way to public services and benefits for the needy, and to expansion of the unfairness of ‘zero-hour contracts’.

Despite his hard work and sincerity, much of the blame for this must be put on Ed Miliband, the leader of the Labour Party. He decided to join in the chorus of the rest of the English political establishment and the London media of demonising the Scottish National Party, the SNP.

Everyone knew that if there were to be a hung parliament the Labour Party would have to work with the SNP. Voters in England needed to be prepared for this.

But the demonising did two things. Many people in Scotland took the offensive attacks on the SNP as an insult to Scotland, and support for the SNP increased. And a large number of voters in England were persuaded that a government of the Labour Party working with the SNP would be the next worse thing to opening the gates of hell. Better for them the Tories.

Of course there are big policy differences between the Labour Party and the SNP, with Trident and independence in particular. But the two parties have much in common. Or they should have, if the Labour Party still claims any right to call itself socialist.

Hindsight is a wonderful thing, according to the saying. But this is not hindsight. The Labour Party had plenty of advice to prepare to work with the SNP, not to make this impossible. The blame for the suffering of millions of people during the next five years falls on Mr Miliband and the Labour Party for their failure to listen.
4 Mai 15 - Darlledu 4 May 15 - Broadcasting
Radio Cymru a Rygbi Radio Cymru and Rugby
Dros 10,000 wedi mwynhau dydd ardderchog yn Stadiwm y Mileniwm ddoe, gyda rowndiau terfynol y tri chwpan rygbi SWALEC.

Ond ‘sdim diolch i Radio Cymru roedd cynifer yna. Yn ystod yr wythnos cyn ddoe clywais yr un sôn am y digwyddiad. Mwy na ddigon am fanion a chlebran uwch-gynghrair peldroed Lloegr, ond dim gair am un o’r dyddiadau pwysicaf yng nghalendr rygbi yn y wlad hon.

Ai dyma enghraifft eto o obsesiwn staff adran chwaraeon Radio Cymru gyda pheldroed Lloegr, a’r peth nesaf o wasanaeth i ffaniau rygbi Cymru?
Cwpan SWALEC

Over 10,000 enjoyed a great day at the Millenium Stadium yesterday, with the final rounds of the three SWALEC rugby cups.

But it’s no thanks to Radio Cymru that so many were there. During the week leading up to yesterday I didn’t hear a single mention of the event. More than enough trivia and gossip about the English premier football league, but no word about one of the most important dates in this country’s rugby calendar.

Is this another example of the Radio Cymru sports department staff’s obsession with English football, with next to no service to the fans of Welsh rugby?
17 Ebrill 15 - Rhyfel a Heddwch 17 April 15 - War and Peace
Arfau Niwclear Nuclear Weapons
Efallai’r peth pwysicaf a ddaeth allan o’r ddadl wleidyddol ar y teledu neithiwr oedd y datganiad pendant gan arweinydd y Blaid Lafur y bydd yn cadw taflegrau niwclear Trident ‘tase ei blaid i ennill yr etholiad ym Mis Mai. Hefyd, gwarir can biliwn o bunnoedd ar eu hadnewyddu.

Eisoes rydym wedi cael yr un datganiad gan y Blaid Geidwadol.

Ond pam? ‘Dydy’r cyhoedd ddim yn gwybod yn union delerau’r cytundeb rhwng llywodraethau Prydain a’r Unol Daleithiau sydd y tu ôl cyflenwad y taflegrau Americanaidd hyn a’u pennau ffrwydrol niwclear i Lynges Prydain. Ond prin yw’r bobl sy’n amau byddai angen caniatâd yr Americanwyr cyn iddynt gael eu tanio.

Os ydy hyn yn wir mae’r Tridents Prydeinig - yn y bôn - yn rhan o arfdy niwclear yr Unol Daleithiau. Beth yw’r pwynt o’u cadw, ac o wariant enfawr ynghlwm? Mae gan yr Americanwyr dros ddwy fil o bennau ffrwydrol niwclear gweithgar,. Mae gan Brydain 160. Os ni fyddai dwy fil yn ddigon i ddinistrio’r byd fyddai 160 ychwanegol yn gwneud gwahaniaeth?

Ond os - ar y llaw arall - mae yn bosibl yn gytundebol, gwleidyddol a thechnegol i Brydain ddefnyddio Trident yn annibynnol heb ganiatâd yr Unol Daleithiau, beth yw’r amgylchiadau pryd y byddai hyn yn digwydd? Ydy’n ddirnadwy y byddai Prydain ar ei phen ei hun yn dechrau rhyfel niwclear?

Yn y ddadl neithiwr gofynnodd Leanne Wood o Blaid Cymru arweinydd y Blaid Lafur p’un ai fyddai e’n defnyddio arfau niwclear yn Syria ac Irac yn erbyn ISIL.. Neu byddai’r Ariannin yn darged, petai filwyr yr Archentwyr i lanio ar ynysoedd y Malfinas / Falklands eto?

Y realiti yw nad oes unrhyw amgylchiadau pryd y byddai Prydain yn defnyddio’r arfau hyn yn annibynnol o’r Unol Daleithiau. Miniscwl yw’r ychwanegiad eu bod yn rhoi i arfdy’r Unol Daleithiau.

Does ond un peth defnyddiol i’w gwneud gyda’r taflegrau Trident a’u pennau ffrwydrol. Sgrapio nhw - yn gyhoeddus iawn. Gosod enghraifft sydd wir ei angen i weddill y byd bod rhwystro amlder arfau niwclear a diarfogi yn wir hanfodol.
Taflegryn Trident

Operation Crossroads

Operation Castle

Perhaps the most important thing which came out of the political debate on the television last night was the statement by the leader of the Labour Party that the countries of Britain would keep Trident nuclear missiles were his party to win the May’s election. Also, a hundred billion pounds will be spent on upgrading them.

The Conservative Party has already said the same thing.

But why? The public doesn’t know the exact terms of the agreement between the British and United States governments which lies behind the supply of these American missiles and their nuclear warheads to Britain. But there are few people who doubt that American permission would be needed before they could be fired.

If this is true the British Tridents are – basically – part of the United States nuclear arsenal. What is the point of keeping them, and of paying the associated enormous cost? The Americans have over two thousand active nuclear warheads. Britain has 160. If two thousand wouldn’t be enough to destroy the world would 160 extra make a difference?

But if – on the other hand – it is contractually, politically and technically possible for Britain to use Trident independantly of the United States what are the circumstances when this would happen? Is it conceivable that Britain would decide to start a nuclear war all by itself?

In the debate last night Leanne Wood of Plaid Cymru pointedly asked the leader of the Labour Party whether he would use nuclear weapons in Syria and Iraq against ISIL. Or would Argentina be the target, were Argentinian troops to land on the Malvinas / Falklands again?

The reality is that there are no circumstances when Britain would use these weapons independantly of the United States. Their addition to the United States arsenal is miniscule.

There is only one useful thing that can be done with the Trident missiles and their warheads. Scrap them – very publically. Set an urgently needed example to the rest of the world that non-proliferation and nuclear disarmament is absolutely vital.
Dydd Gwyl Dewi 15 - Gwleidyddion St David's Day 15 - Politicians
Gallu a Moesoldeb Ability and Morality
'Dw i newydd fod mewn gorymdaith a rali yn Nhredegar i ddangos cefnogaeth i GiG sy’n rhydd ac yn gyfangwbl yn y sector cyhoeddus.

Tredegar yw’r dref lle'r oedd fy nheulu’n byw pan gefais fy ngeni. Roeddwn ni’n byw yn 2 Charles Street, drws nesaf i dŷ Aneurin Bevan. Efe, wrth gwrs, oedd pensaer a sylfaenydd y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol.

Yn y rali heddiw rhoddwyd araith gan Michael Sheen. Siaradodd yn ardderchog (‘dw i’n edrych ymlaen at ei weld fel Prif Weinidog Gweriniaeth Cymru rhyw ddydd!). Mewn araith danbaid pwysleisiodd gweledigaeth Aneurin Bevan - rhaid i bawb, boed yn dlawd neu’n gyfoethog - cael mynediad i wasanaeth iechyd cynhwysfawr heb orfod poeni am unrhyw gost ariannol.

Ond siaradodd am Aneurin Bevan y dyn yn ogystal ag Aneurin Bevan y gweledydd. A ni adawyd gyda’r argraff yr oedd y dyn drws nesaf i fi'r holl flynyddoedd yn ôl bron yn sant.

Yr wythnos diwethaf mi es i weld y ffilm ‘Selma’ am un o ymgyrchoedd Martin Luther King. Ffilm wych. Ond eto, ar wahân i un cyfeiriad amhendant i broblemau yn ei briodas, cawsom yr argraff yr oedd yn berson di-fai a di-wendid.

Oes posibl y dyddiau ‘ma i unrhywun fod yn arweinydd o statws Aneurin Bevan neu Martin Luther King? Mae’r cyfryngau yn cribo mor fanwl trwy fywydau preifat pobl sy’n dod yn amlwg yn y maes gwleidyddol i’r raddfa nad oes modd iddynt gael eu barnu ar eu hegwyddorion, eu sgiliau gwleidyddol a’u penderfyniad. Y pethau sy’n bwysig yw os ydy hi neu fe’n chwarae oddi gartref, yn chwilio am gwmni ar Clapham Common, neu’n methu edrych fel seren ffilm Hollywood.

Yn hyn o beth mae’n hen bryd troi’r cloc yn ôl. Rŷn ni’n gwybod erbyn hyn yr oedd bywyd preifat David Lloyd George yn amheus, i ddweud y lleiaf. Ar y pryd pan roedd yn wleidydd amlwg yng ngwledydd Prydain prin oedd diddordeb y wasg. Ei gyfraniadau at ennill y Rhyfel Byd Cyntaf, at gyflwyno system budd cymdeithasol, ac at ddatrys rhai o broblemau Iwerddon, oedd llawer mwy pwysig.

Y tu mewn i derfynnau ‘sdim ots os ydy gwleidydd yn sant neu bechadur. Gallu, gweledigaeth a phenderfyniad i wella bywyd i bobl gyffredin yw beth sy’n cyfri. Os byddwn ni’n edrych yn rhy agos at fywydau preifat sut byddwn ni'n dod o hyd i’r arweinwyr ein bod ni angen i achub y GiG, i atal y rhyfeloedd anfad bod yr Americanwyr a’u pypedau’n ymladd ym mhobman, ac i symud arian o waledi enfawr y cyfoethog i bocedi gwag y tlawd?
Rali i gefnogi'r GIG, Tredegar 1/3/15

Michael Sheen yn siarad mewn rali i gefnogi'r GIG, Tredegar 1/3/15

Martin Luther King Jr

David Lloyd George, Prif Weinidog Gwledydd Prydain 1916 - 1922
I’ve just been to a march and rally in Tredegar to show support for a NHS which is free and completely in the public sector.

Tredegar is the town where my family lived when I was born. We lived at 2 Charles Street, next door to the house of Aneurin Bevan. He, of course, was the architect and founder of the National Health Service.

In today’s rally Michael Sheen gave a speech. He spoke brilliantly (I look forward to seeing him as Prime Minister of the Welsh Republic some day!). In a fiery speech he emphasised the vision of Aneurin Bevan – everyone, be they poor or rich - must be able to use a comprehensive health service without having to worry about any financial cost.

But he spoke about Aneuring Bevan the man as well as Aneurin Bevan the politician. And we were left with the impression that the man next door to me all those years ago was almost a saint.

Last week I went to see the film ‘Selma’ about one of the campaigns of Martin Luther King. A great film. But again, apart from one vague mention of problems in his marriage, we were left feeling that he was a person with no faults and no weaknesses.

Is it possible these days for anyone to become a leader with the status of Aneurin Bevan or Martin Luther King? The media dissect the private lives of people who rise in the political world to the extent that we can’t judge them on their principles, their political skills or their determination. The important things are whether she or he is playing away from home, looks for company on Clapham Common, or doesn’t have the looks of a Hollywood film star.

It’s time to turn the clock back. We know now that the private life of David Lloyd George was questionable, to say the least. At the time when he was a prominent politician in the countries of Britain the press took little notice. His contributions to winning the First World War, introducing a social security system, and to solving some of the problems of Ireland, were far more important.

Within limits it doesn’t matter if a politician is a saint or a sinner. Ability, foresight and determination to improve life for ordinary people is what counts. If we look too closely at private lives how ever will we find the leaders we need to save the NHS, to stop the evil wars which the Americans and her puppets are fighting round the globe, and to move wealth from the huge wallets of the rich to the empty pockets of the poor?
13 Chwefror 15 - Gwleidyddiaeth Ryngwladol 13 February 15 - International Politics
Mewnfudiad a Gwladychiad Immigration and Colonisation
Mae fy meddwl wedi bod yn ystyried dadleuon a glywais neithiwr os oedd yn iawn i’r Ariannin feddiannu’r Malfinas / Falklands yn 1982, neu oedd yn iawn i Brydain ail-feddiannu’r ynysoedd trwy rym. Gwnaethpwyd y pwynt bod mwyafrif mawr yr ynyswyr yn teimlo fel Prydeinwyr, ac maen nhw eisiau i’w cymuned gael statws fel tiriogaeth Brydeinig ddibynnol. Teimlwyd gan eraill ei fod yn chwerthinllyd mewn oes ôl-imperialaidd - yn ôl pob sôn - i wlad hawlio tiriogaeth sydd 8,000 milltir i ffordd.

Mae’r un cyfyng-gyngor ar wraidd llawer o anghydfodau’r byd, ac mae angen trafodaeth. Yn bersonol, ‘dw i o blaid symudiad pobl i diriogaethau a diwylliannau eraill. Dyma sut i gyfoethogi profiadau pobl a thorri rhwystrau i lawr.

Ond all fod yn iawn fod pobl sy’n symud allan o’u gwlad eu hunain yn mynnu’r hawl i fynd â’r wlad honno gyda nhw? Yn y 17eg ganrif symudodd nifer fawr o bobl o’r Alban a Lloegr i ogledd Iwerddon. Does neb yn anymwybodol o’r diflastod a achoswyd i’r diriogaeth honno ers hynny oherwydd bod y trigolion newydd wedi mynnu aros yn Brydeinwyr, a labeli’r rhanbarth yr oedden wedi meddiannu fel ardal Brydeinig.

Mae’n ymddangos bod trefedigaethau o alltudion Prydeinig yn Sbaen. Allan nhw fynnu bod y cilfachau eu bod nhw wedi ffurfio yn Brydeinig? Wedi’r cwbl, mynnir gan bobl sy’n deyrngar i Brydain yn Gibraltar bod eu tamaid bach o garreg yn diriogaeth Brydeinig ddibynnol, ac maen nhw’n llwyddo.

Brocha grwpiau fel UKIP gyda rhithiau bod mewnfudwyr i wledydd Prydain yn creu Polandau, Latvias, Pacistanau a Rwmaniau bychain yma. Mae’n ymddangos nid ydy’r eironi wedi’u taro o ‘Loegrau Bychain’ yn cael eu sefydlu mewn gwledydd eraill o alltudion heb air o’r iaith frodorol, gwybodaeth o’r ddiwylliant frodorol, neu deyrngarwch i'w cartref newydd.

Ar hyn o bryd efallai’r enghraifft fwyaf eithafol a pheryglus o drosglwyddo pobl a gwlad yw yn Palesteina. Un o brif achosion eithafiaeth Islamaidd honedig ydy symudiad gan Israel o niferoedd mawrion o ddinasyddion Iddewig Israel i diriogaeth Palesteinaidd, a’r taerineb sy’n dilyn bod y tir newydd ei feddiannu yw rhan o Israel. Tra bo’r byd yn ffidlan ac yn gadael i’r lladradau barhau ydy’n syndod y cythruddir llawer o bobl, a mynega rhai’r cynddaredd mewn ffyrdd erchyll?

Nid ar yr un raddfa o bell ffordd, ond nid i’w anwybyddu, mae gennym sefyllfa yng Nghymru lle mae Saeson yn symud i Gymru ac yn ceisio dod â’u Lloegr gyda nhw. Diolch byth mae ‘na lawer sydd ddim yn ymddwyn fel “Lloegwyr Bychain”. Ond mae’r lleill yn achosi difrod difrifol, i’n hiaith ni’n arbennig. Mae’r difrod i’n hunanhyder ac hunaniaeth fel cenedl yn waeth byth.
Safbwynt o'r Ariannin

Protest yn Gibraltar

Teyrngarwch i Brydain Fi yng Ngogledd Iwerddon yn 1971

Siop Pwylaidd yn Ne Cymru
My mind has been turning over arguments I heard last night whether it was right for Argentina to occupy the Malvinas / Falklands in 1982, or whether it was right for Britain to take back the islands by force. The point was put that a large majority of the islanders feel themselves to be British, and want their community to have status as a British dependant territory. Others felt that it was ridiculous in this supposedly post-colonial era for a country to claim as its own a territory which is 8,000 miles away.

This same dilemma is at the root of many of the world’s conflicts, and needs discussion. Personally I’m all for people moving to other territories and cultures. It enriches people’s experiences and breaks down barriers.

But can it be right that people moving out of their own country demand the right to take that country with them? In the 17th Century a large movement took place of people from Scotland and England to the north of Ireland. No-one is unaware of the misery that territory has been put through since because the new inhabitants insisted on remaining British, and labelling the province they now occupied as British.

Apparently there are colonies of British ‘ex-pats’ in Spain. Can they demand that the new enclaves they have formed are British? After all, people loyal to Britain in Gibraltar insist that their little piece of rock is British dependant territory, and they get away with it.

Groups like UKIP foam at the mouth with illusions that immigrants to the countries of Britain are creating little Polands, Latvias, Pakistans and Romanias here. It seems that the irony of Little Englands of ex-pats being set up in other countries with not a word of the native language, knowledge of the native culture, or loyalty to their new land, has not occurred to them.

Currently, perhaps the most extreme and dangerous instance of this transfer of people and country is in Palestine. A major cause of so-called Islamic extremism is the movement by Israel of large numbers of Israeli Jewish citizens into Palestine, and the subsequent insistance that the newly occupied land is part of Israel. Whilst the world umms and ahhs and lets the thefts continue is it suprising that many people are deeply angered, and some express that anger in horrific ways?

On nowhere near the same scale, but not to be ignored, we have a situation in Wales in which English people move into Wales and try to bring their England with them. Thankfully many are not tarred with this Little Englander brush, but those who are do enormous damage, to our language in particular. The damage to our self-confidence and identity as a nation is even worse.
26 Ionawr 15 - Economeg 26 January 15 - Economics
Etholiad Gwlad Groeg Greek Election
Mae’n ymddangos bod plaid Syriza yng Ngwlad Groeg wedi ennill yr etholiad cyffredinol ddoe. Addewir gan Syriza rhoi diwedd ar y llymder enbyd bod gwerin bobl y wlad wedi dioddef ers sawl blwyddyn bellach.

Bydd etholiad cyffredin yng ngwledydd Prydain ym Mis Mai. Ond - yn wahanol i wlad Groeg - nid ydy’r un o’r prif bleidiau yn cynnig polisi sy’n rhoi diwedd ar y llymder bod pobl gyffredin yma yn dioddef. Prin ei bod yn bosibl gweld y gwahaniaeth rhwng polisïau economaidd y pleidiau Llafur a Thori, ac eithrio sôn gan y Blaid Llafur am gyflwyno toriadau i wasanaethau cyhoeddus yn arafach na’r Torïaid. O dan yr un blaid neu’r llall bydd y gwasanaeth iechyd yn parhau i ddioddef, bydd ysgolion a llyfrgelloedd yn cau, a bydd gweithwyr sy’n rhoi gwasanaeth i’r cyhoedd yn colli eu swyddi.

Heb amheuaeth bydd buddugoliaeth Syriza yn codi braw enfawr ymhlith y moch tew sy’n rheoli systemau economaidd y byd gorllewinol. Cwrddir ag unrhyw awgrym y bydd cyfoeth yn cael ei gyfeirio i ffordd o’r bancwyr a phenaethiaid busnes mawr tuag at bobl gyffredin gydag eirlithriad o bropaganda. Bydd cam o’r fath yn arwain at beth nesaf i ddiwedd y byd, medden nhw.

Ond ‘sdim rhaid i system economeg y byd rhedeg fel y mae nawr. Mae’n anhygoel mai dim ond 85 o bobl - sef llond un bws o bobl - bia cymaint o gyfoeth ag hanner tlotach poblogaeth y byd gyda’n gilydd. Ac mae’r annhegwch yn gwaethygu.

Mae ‘na systemau tecach a fyddai’n sicrhau bod pawb yn cael rhan o’r cyfoeth sydd ar gael. Yn ogystal byddai rhai o’r systemau yna’n sicrhau sylw teilwng i’r problemau amgylcheddol sy’n bygwth ein trechu, rhywbeth sydd ddim ar agenda'r moch tew.

Mae Gwlad Groeg yn wlad fach gydag economi na allai - ar ei ben ei hun - ysgwyd seiliau system economi annheg ac anghynaladwy y byd sy’n goroesi ar hyn o bryd. Ond os bydd pobl ym mhob gwlad yn dilyn enghraifft y Groegwyr, a mynnu trefn lle mae’r economi yn gweithio er les pobl gyffredin, yn lle pobl gyffredin yn gorfod dioddef er mwyn yr economi, byddai obaith.

Dull amgen o daclo llymder
It seems that the Syriza party in Greece has won yesterday’s general election. Syriza has promised to end the desperate austerity that the ordinary people of the country have been enduring now for several years.

There will be a general election in the countries of Britain in May. But – unlike Greece – neither of the main parties offer a policy of ending the austerity which ordinary people here are suffering. We can scarcely see a difference between the economic policies of the Labour and Tory parties, except suggestions from the Labour Party that they will introduce cuts to public services slower than the Tories. Under either party the health service will continue to suffer, schools and libraries will close, and workers who serve the public will lose their jobs.

Without doubt the victory of Syriza in Greece will frighten the fat cats who control the economic systems of the western world. Any suggestion that wealth will be diverted away from the bankers and leaders of big business to ordinary people will be met with an avalanche of propaganda. Such a step will lead us close to the end of the world, they will say.

But the world’s economic system doesn’t have to run this way. It is incredible that just 85 people – that is, a single bus load of people – own as much wealth as the poorest half of the world’s population all together. And the disparity is growing.

There are fairer systems which would ensure that everyone gets a share of the wealth which is there. Also, some of these systems would ensure worthy attention to the environmental problems which threaten to swamp us, something which is not on the agenda of the fat cats.

Greece is a small country with an economy which could not – on its own – shake the foundations of the unfair and unsustainable world economic system which prevails at the moment. But if people in every country followed the example of the Greeks, and demanded a system in which the economy works for the benefit of ordinary people, instead of ordinary people having to suffer for the sake of the economy, there would be hope.
24 Rhag 14 - Gwleidyddiaeth y Byd 24 Dec 14 - World Politics
Terfysgaeth Terrorism
Yn ystod y misoedd diwethaf mae’r byd wedi gweld nifer o erchyllterau ofnadwy. Llathruddwyd 219 o ferched ysgol gan Boko Haram yn Nigeria. Mae’n ymddangos bod miloedd o bobl Yazidi wedi’u lladd neu’i herwgipio gan ISIL yn Irac Cyrdaidd. A’r llofruddiaeth gan y Taliban yr wythnos cyn ddiwethaf o 141 o blant ac athrawon mewn ysgol yn Pashawar ym Mhacistan yn mynd â ffieidd-dra i lefel newydd.

Mae’n amhosibl adweithio gyda llai na gwrthdro pur. Yr ateb syml i erchyllterau'r mudiadau hyn a’u tebyg yw dweud bod eu hymddygiad mor wrthun nad ydyn nhw’n haeddu ystyriaeth o unrhyw ddadl neu gwyn sydd yn eu cymell. Mae gweithredoedd ffiaidd yn dileu unrhyw hawl gan y rhai sy’n eu cyflawni i ystyriaeth o’r rhesymau pam mae eu mudiadau yn bodoli, a pham maen nhw’n gweithredu fel y maent.

A dyma’r ateb gan arweinwyr gwleidyddol y byd a’r cyfryngau torfol. Yn ein cymdeithas ni nid ydym yn clywed barn al-Qaeda, ISIL, a’u tebyg. I wrando ar ac ystyried y barnau hyn bydd i “wobrwyo terfysgaeth”. A defnyddir y gyfraith i sicrhau ni chlywir y dadleuon. Defnyddir tystiolaeth o feddu ar gyhoeddiadau gan un o’r mudiadau hyn, neu edrych ar eu safleoedd ‘we, mewn llysoedd barn mewn achosion o dan y llu o ddeddfau gwrthderfysgaeth sydd wedi dod i rym yn ystod y blynyddoedd diweddar.

Disgwylir i ni gredu bod miloedd o bobl ifanc, fedrus - llawer sydd wedi’u magi mewn cartrefi gwâr dros y byd - yn heidio i ymuno â mudiadau terfysgol oherwydd dim mwy na dylanwad rhyw bregethwr carismatig neu effaith edrych ar safle ‘we glyfar.

Ac felly mae’r cylch dieflig yn troi’n gyflymach ac yn gyflymach. Mwy o adwaith milwrol gan wledydd y gorllewin a’u partneriaid yn erbyn y mudiadau terfysgol. Mwy o bobl yn cael eu denu i ymuno â’r mudiadau yma. A mwy o erchyllterau lle telir y gost gan bobl gyffredin.

Wrth gwrs dylai’r rhai sy’n saethu plant ysgol gael eu dal a’u cosbi. Wrth gwrs dylai’r rhai sy’n trio difodi neu gaethiwo hil gyfan cael eu dal a’u cosbi. Ond bydd y “rhyfel yn erbyn terfysg” yn parhau am byth oni i ni edrych yn ddyfnach na’r erchyllterau, a chodi uwchben ein gwrthdro digon i ddysgu ac ystyried y rhesymau pam mae’r mudiadau terfysgol yn bodoli.
Ar y ffin rhwng Syria a Twrci

Al Qaeda yn Affrig
During the last months the world has seen a number of terrible atrocities. 219 school girls were kidnapped by Boko Haram in Nigeria. It appears that thousands of Yazidi people have been killed or kidnapped by ISIL in Kurdish Iraq. And the murder by the Taliban the week before last of 141 children and teachers at a school at Pashawar in Pakistan takes vileness to a new level.

It is impossible to react with less than total revulsion. The simple answer to the atrocities of these movements and their like is to say that their behaviour is so repugnant they do not deserve consideration of any argument or complaint which motivates them.

And this is the response of the political leaders of the world and the mass media. In our society we do not hear the views of al-Qaeda, ISIL and the like. To listen to and consider these opinions would be to “reward terrorism”. And the law is used to ensure that the arguments are not heard. To possess publications from one of these movements, or evidence of looking at their web sites, is used in courts of law to gain convictions under the host of anti-terrorism legislation which has come into force in recent years.

We are expected to believe that thousands of intelligent young people – many who have been brought up in civilised homes in many parts of the world – flock to join terrorist movements because of no more than the influence of a charismatic priest or the effect of looking at a clever website.

And thus the vicious circle turns ever faster. More military reaction by the countries of the west and their partners against the terrorist movements. More people being attracted to join these movements. And more atrocities where the price is paid by ordinary people.

Of course those who shoot school children should be caught and punished. Of course those who try and exterminate or enslave an entire race should be caught and punished. But the “war on terrorism” will continue for ever unless we look deeper than the atrocities, and raise above our revulsion enough to learn and consider the reasons why the terrorist organisations exist.
25 Tach 14 - Gwleidyddiaeth Cymru 25 Nov 14 - Welsh Politics
Beth yw Gwerth Gwleidydd? What is a Politician Worth?
Heddiw clywsom fod Bwrdd Cydnabyddiaeth Cynulliad Cymru’n argymell codiad cyflog i aelodau Senedd o £54,390 y flwyddyn i £64,000. ‘Sdim syndod fod y datganiad wedi achosi dicter mawr ledled y wlad. Felly pam dydy’r Bwrdd ddim wedi darparu atebion i’r cwestiynau sy’n codi?

Dywedir bod y Bwrdd yn ‘annibynnol’. Ond sut gall hyn fod? Aelodau’r Senedd (yn gweithredu fel ‘Comisiwn y Cynulliad’) sy’n penodi aelodau’r Bwrdd. Felly nid yw’r Bwrdd yn annibynnol o’u tâl-feistri o gwbl.

Pwy yw aelodau’r Bwrdd? Y Gadair yw Sandy Blair. Wedi ymddeol ar ôl blynyddoedd fel Prif Weithredwr Cymdeithas Awdurdodau Lleol Gymru a prif weithredwr awdurdod lleol cyn hyn, byddai incwm o £64,000 yn gnau mwnci iddo fe. Gweddill y Bwrdd yw cyfrifwyr siartredig, Cyfarwyddwr Ariannol Tesco, a phobl uchel iawn yn y byd academaidd . Wrth ystyried mai incwm pobl yng Nghymru yw - ar gyfartaledd - llai na £20,000 pa gafael sydd gan y bobl gyfoethog hyn ar realiti’r sefyllfa incwm i 90% o’r bobl yma?

Pob tro y codir y mater o gyflog i wleidyddwyr dywedir bod pobl gyda swyddi llai cyfrifol yn ennill mwy na nhw. Meddygon a phrif athrawon yw’r enghreifftiau a roir fel arfer. Ond ‘sdim ots faint bydd unrhywun yn cael - wastad mae pobl eraill yn ennill mwy. Byddai llawer mwy buddiol cymharu’r cyflogau gyda phobl sy’n ennill llai. Er enghraifft, ydy’n deg bod aelod y Senedd yn ennill £54,390 - heb sôn am £64,000 - tra bod nyrsys cofrestredig yn ennill, ar gyfartaledd, £23,000 ? Mae Gwleidyddwyr yn siarad am bolisïau. Gweithwyr awdurdodau lleol sy’n eu darparu ar lawr gwlad, ar gyflog ar gyfartaledd trwy ran fwyaf Cymru o lai na £20,000 .

Dywedir hefyd bod rhaid talu llawer er mwyn denu’r bobl gorau a mwyaf talentog i’r swydd. Ond ydy hyn yn gywir? Ar gyfartaledd enillir gan aelodau Senedd Ffrainc £73,600 y flwyddyn. Ydyn nhw’n dangos y ddawn sydd ei heisiau t i redeg gwlad? Y cyflog am aelodau Parlamento Italiano yw £112,000. Oes rhaid dweud rhagor?

Mae angen pobl yn Senedd Cymru a gyrrir gan ddyhead i wasanaethu eu cymuned a’u gwlad. Does dim angen y rhai sydd yn y byd gwleidyddiaeth oherwydd ei fod yn cynnig gyrfa dda, neu ffordd o ennill arian mawr.

Y gwir yw nad yw talu mwy yn denu’r mwyaf galluog i’r swydd, ond y mwyaf gwancus.
Adeilad Senedd Cymru

Today we heard that the Welsh Assembly Remumeration Board is recommending a pay rise for members of the Senedd from £55,390 a year to £64,000. It’s no surprise that the statement has caused anger throughout the Country. So why hasn’t the Board answered the questions which arise?

It is said that the Board is ‘independent’. But how can this be? Members of the Senedd (acting as the ‘Assembly Commission’) appoint the members of the Board. Therefore the Board is not independent of its paymaster at all.

Who are the members of the Board? The Chair is Sandy Blair. After retiring after years as Chief Executive of the Welsh Local Government Association and chief executive of a local authority before that an income of £64,000 would be peanuts to him. The rest of the Board are chartered accountants, the Finance Director of Tesco, and people high up in the academic world. Considering that the income of the people of Wales is – on average – less than £20,000 what grasp do these rich people have of income realities for 90% of people here?

Every time that the issue of politicians’ pay is brought up it is said that people with less responsible jobs earn more than them. Doctors and head teachers are the examples usually raised. But it doesn’t matter how much anyone gets – there will always be others who earn more. It would be a lot more beneficial to compare salaries with people who earn less. For example, is it fair that a member of the Senedd earns £54,390 – without talking of the £64,000 – whilst registered nurses earn, on average, £23,000? Politicians talk about policy. Local authority workers deliver it, at an average salary in most of Wales of less than £20,000.

It’s also said that a lot must be paid to attract the best and most talented people to the job. But is this true? On average members of the French Parliament earn £73,600 a year. Are they showing the talent needed to run a country? Pay for members of Parlamento Italiano is £112,000. Enough said?

We need people in the Welsh Senedd driven by a passion to serve their community and their country. We don't need those who are in the political world because it offers a good career, or a way of earning big money.

The truth is that paying more does not attract the best people to the job. It just attacts the most greedy.
21 Tach 14 - Darlledu 21 Nov 14 - Broadcasting
Radio 'Cymru'? Radio 'Cymru'?
Mae Dylan Jones yn cael dwy awr ar Radio Cymru bob bore trwy’r wythnos i wyntyllu ei farn. Heddiw, clywsom fod sawl gwrandäwr wedi cysylltu i ofyn pam mae ei raglen yn rhoi cymaint o sylw i isetholiadau seneddol yn Lloegr, ac i blaid UKIP yn arbennig.

Yn lle trio ateb cwestiwn synhwyrol gydag ateb synhwyrol, doedd dim gan Dylan Jones i ddweud ac eithrio i ofyn a oedd y gwrandawyr eisiau sensoriaeth.

Mae’r nifer o bobl sy’n gwrando ar Radio Cymru yn disgyn yn gyson. Dyna biti. Mae llawer iawn o bobl yn y wlad hon eisiau sianel radio o safon sy’n edrych ar y byd trwy lygaid Cymreig. Ond mae’n ymddangos nad oes gan Radio Cymru’r sgiliau i wneud hyn. Ac eithrio eitemau sy’n gysylltiedig â Chymru’n unig, bron unig gynnwys rhaglenni newyddion a materion cyfoes yw stwff sy’n hawdd codi o bapurau newyddion Lloegr. Felly clywer i syrffed eitemau am wleidyddiaeth Lloegr, a phêl droed Lloegr.

Rhedir Radio Cymru gan y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig. Ond heb lawer mwy o bwyslais ar y ‘Cymru’ a llai ar y ‘Prydeinig’ prin bo modd dringo allan o’r twll ei bod yn pallu i’w hun.
Gwrandawyr Radio Cymru Dylan Jones gets two hours on Radio Cymru every morning through the week to air his point of view. Today, we heard that several listeners had sent texts asking why his programme gives so much attention to parliamentary by-elections in England, and to the UKIP party in particular.

Instead of trying to answer a sensible question with a sensible answer, Dylan Jones had nothing to say except to ask if the listeners wanted censorship.

The number of people who listen to Radio Cymru is dropping constantly. That is a pity. Very many people in this country want a radio station of high standard which looks at the world through Welsh eyes. But Radio Cymru doesn’t appear to have the skills to do this. Apart from items relevant only to Wales almost the only content of news and current affairs programmes is stuff which is easy to lift from English newspapers. Thus we hear endless items about English politics, and English football.

Radio Cymru is run by the British Broadcasting Corporation. But without much more emphasis on the ‘Cymru’ and less on the ‘British’ it’s hard to see how it will climb out of the hole it is digging for itself.
17 Tach 14 - Gwleidyddiaeth Rhyngwladol 17 Nov 14 - International Politics
Dwyrain Wcráin East Ukraine
Cafodd Arlywydd Putin chwip din go iawn gan arweinwyr y Gorllewin yng nghynhadledd y grŵp G20 yn Brisbane, yn ôl y wasg. Ymyrryd i helpu gwrthryfelwyr yn Nwyrain Wcráin yw ei drosedd honedig.

Yn ôl yr hyn ein bod ni’n clywed mae bywyd yn Rwsia o dan Vladimir Putin yn uffern i nifer fawr o bobl, lle mae llygredd gwleidyddol a phrinder parch at y gyfraith yn rheol, nid eithriad.

Ond - er gwaethaf hyn oll - does dim amheuaeth bod mwyafrif mawr pobl Dwyrain Wcráin eisiau closio at Rwsia, nid y Gorllewin. Os dyma eu dymuniad dyma beth ddylen nhw gael. Dyna ddemocratiaeth.

Mae arweinwyr gwledydd y Gorllewin yn pregethu’n ddiddiwedd i weddill y byd rhinweddau democratiaeth. Ond tro ar ôl tro rŷn ni’n gweld na ellir caniatáu’r egwyddor oni i’r canlyniadau fod yn ffafriol i bolisïau’r Gorllewin. Os ydy’r bobl eisiau rhywbeth arall dyma derfysgaeth, nid democratiaid.

Yn gynnar eleni cefnogwyd ac arfogwyd gan y Gorllewin gwrthryfelwyr yng Nghorllewin Wcráin a benderfynnodd - gyda thipyn o help gan wasanaethau cudd yr Unol Daleithiau - i godi arfau yn erbyn eu llywodraeth etholiedig eu hun. Erbyn hyn mae gwrthryfelwyr yn Nwyrain Wcráin wedi codi arfau yn erbyn y llywodraeth ganlynol, llywodraeth sydd ag hawl wan iawn i hygrededd democratic dros yr wlad i gyd. Ond dydy’r Gorllewin ddim eisiau iddynt lwyddo. Felly – trwy ddiffiniad bron – terfysgwyr ydyn nhw, nid ymladdwyr dros ddemocratiaeth.

Map Wcráin
President Putin suffered a severe tongue lashing by the leaders of the West at the G20 group conference in Brisbane, according to the press. Interferring to help rebels in East Ukraine is his alleged crime.

According to that which we hear life in Russia under Vladimir Putin is hell on earth for a large number of people, with endemic political corruption and lack of respect for the law.

But – despite this – there is no doubt that a large majority of the people of East Ukraine want closer ties with Russia, not the West. If that is their wish that is what they should get. That is democracy.

Leaders of Western countries preach endlessly to the rest of the world about the virtues of democracy. But time after time we see that the principle can only be allowed in practice if the results are favourable to the policies of the West. If the people want something else that’s terrorism, not democracy.

Early this year the West supported and armed rebels in West Ukraine who decided – with a little help from the United States secret services – to take up arms against their own freely elected government. Now rebels in East Ukraine have taken up arms against the successor government, whose claims to country-wide democratic credentials are weak in the extreme. But the west doesn’t want them to succeed. So they become – almost by definition – terrorists, not fighters for democracy.
14 Tach 14 - Moesoldeb 14 Nov 14 - Morality
Hysbyseb Siocled Sainsbury’s Sainsbury's Chocolate Advert
Ymddangosodd yn ddiweddar hysbyseb am far o siocled gan archfarchnad Sainsbury’s. Mae’n dangos adluniad o’r cadoediad answyddogol Dydd Nadolig 1914, pan ddaeth milwyr, Ffrainc, Prydain ac yr Almaen allan o’u ffosydd i chwarae peldroed a chanu carolau gyda'i gilydd.

Mae’n codi teimladau cryfion, gyda rhai yn meddwl ei bod yn wych, eraill yn ei chasáu. Ond tybed os fydd yr hysbyseb yn gwneud mwy na hybu gwerthiant siocled?

Fy hoff ffilm gwrthryfel yw Joyeux Noël gan Christian Carion. Mae’n ardderchog. Ond faint o bobl fydd yn gweld y ffilm yma, neu ffilmiau tebyg? Ar y llaw arall bydd miliynau’n gweld hysbyseb Sainsbury’s. Does dim ots os bydd rhai ohonynt yn prynu’r siocled o’i herwydd. Mae’n bwysicach o lawer bod pobl yn cael eu sbarduno i feddwl am ffolineb rhyfel. Ac os bydd yr hysbyseb yma yn helpu yn hyn o beth - wel, cawn ni ragor!

An advertisement recently appeared from the Sainsbury’s supermarket for a bar of chocolate. It shows a reconstruction of the unofficial truce on Christmas Day 1914, when French, British and German soldiers left their trenches to play football and sing carols together.

It is raising strong feelings, with some thinking it is great, and others hating it. But I wonder if the advertisement will do more than promote the sale of chocolate?

My favourite anti-war film is Joyeux Noël by Christian Carion. It is terrific. But how many people will see this film, or films like it? On the other hand millions will see Sainsbury’s advert. It doesn’t matter if some of them buy chocolate because of this. It is much more important that people are spurred to think about the folly of war. And if this advertisement helps with this – well, we need more!
2 Tach 14 - Yr Amgylchedd 2 Nov 14 - The Environment
Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd Intergovermental Panel on Climate Change
Mae adroddiad diwethaf y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) yn dweud yn blwmp ac yn blaen - gyda 95% o wyddonwyr y byd yn cytuno – mai gweithgareddau’r hil ddynol yw’r prif reswm y tu ôl i newid yn yr hinsawdd ers y 50’au.

Wrth lansio’r adroddiad mae’r Athro Thomas Stocker wedi dweud bod y newid yn yr hinsawdd yn herio’r ddau brif adnodd bod pobl ac ecosystemau yn dibynnu arnynt, sef tir a dŵr. Yn fer, mae’n fygythiad gwirioneddol i’n planed, sef ein cartref.

Nid dyma’r tro cyntaf i’r gymuned wyddonol rhoi’r rhybudd yma, er dyma’r rhybudd cryfaf eto. Felly pam mae arweinwyr gwleidyddol y byd mor gyndyn i gymryd sylw? Pam nag ydyn yn defnyddio eu pŵer i rwystro’r allyriadau sydd ar wraidd newid yn y hinsawdd?

Dylai’r rhesymau i amddiffyn ein planed bod yn amlwg i bawb. Ond mae rhesymau i beidio taclo newid yn yr hinsawdd hefyd. Ers blynyddoedd mae’r diwydiant olew pwerus wedi gwrthwynebu newid, rhag i fesurau i gwtogi ar ddefnydd o danwydd ffosil yn taro eu helw.

Ond yn ddiweddar mae llywodraethau megis yr Unol Daleithiau, Rwsia a Chanada wedi sylweddoli bod cronfeydd enfawr o olew a nwy o dan y Cefnfor Arctig. Hyd yn hyn mae wedi bod yn amhosibl, mewn gwirionedd, i echdynnu’r olew a nwy oherwydd yr haen dew o iâ uwchben. Ond gyda newid yn yr hinsawdd mae’r iâ yn toddi’n gyflym. Byddai’n werth biliynau di-rif o ddoleri ‘tase’r iâ i ddiflannu’n llwyr.

Map yn dangos yr ardaloedd yn yr Arctig a hawlir gan gwledydd gwahanol

The latest report of the Intergovermental Panel on Climate Change (IPCC) says plainly – with 95% of the world’s scientists in agreement – that activities of the human race are the main reason for climate change since the 50’s.

On launching the report Professor Thomas Stocker said that the change in the the climate challenges the two main resources on which people and the ecosystem depend, namely land and water. In short, there is a real risk to the planet, our home.

This is not the first time that the scientific community has given this warning, although this is the strongest warning yet. Therefore why are the political leaders of the world so reluctant to take notice? Why don’t they use their power to stop the emissions which are the main cause of climate change?

The reasons to protect our planet should be obvious to everyone. But there are also reasons not to tackle climate change. For years the powerful oil industry has resisted change, in case measures to cut use of fosil fuels hit their profits.

But recently governments such as the United States, Russia and Canada have realised that there are enormous reserves of oil and gas under the Arctic Ocean. Up to now it has been impossible, in practice, to extract these reserves because of the thick layer of ice above. But with climate change the ice is melting fast. It would be worth untold billions of dollars if the ice were to disappear entirely.
30 Med 14 - Gwleidyddiaeth Ryngwladol 30 Sep 14 - International Politics
Y Cylch Dieflig o Rhyfeloedd The Vicious Circle of War
Yn 2001 ymosodwyd ar Affganistan gan fyddinoedd yr Unol Daleithiau, Prydain, a gwledydd eraill y Gorllewin. Dim ond nawr maen nhw’n tynnu allan, heb ennill eu rhyfel. A llawer yn disgwyl ymhen flwyddyn y bydd y wlad wedi disgyn i anrhefn lwyr, gyda phobl ddiniwed yn dioddef y mwyaf.

Yn 2003 dyma’r un lluoedd arfog yn goresgyn Irac . Ar ôl iddynt adael yn 2011 gadawyd llanast go iawn a rhyfel sifil i bob pwrpas. Talwyd y pris eithaf – a thelir y pris eithaf o hyd - gan filoedd o bobl gyffredin. ‘Sdim syndod y gweler y grŵp terfysgol ISIL fel achubwr gan lawer sydd yn daer i ddianc o’r trychineb a achoswyd gan antur filwrol yr UD a’r Brits.

Yn 2011 gyrrwyd awyrennau lluoedd awyr Prydain a Ffrainc - gyda’r Americanwyr yn tynnu’r cortynnau - i fomio Libya. Llwyddodd yr ymgyrch i ddisodli llywodraeth a oedd, er gwaethaf ffaeleddau mawrion, yn sefydlog ac yn cynyddu safon byw ei phobl. Yn sgil yr ymgyrch gadewid sefyllfa argyfyngus yn Libya, lle rheolir y wlad erbyn hyn gan gangiau arfog a threisgar. Does gan y llywodraeth yr awdurdod neu’r pŵer i sefydlu trefn neu i amddiffyn ei bobl ei hun.

Datganwyd heddiw y bydd awyrennau lu awyr Prydain yn ail-ddechrau bomio yn Irac, y tro yma yn erbyn ISIL. Oes unrhywun yn amau ymhen mis neu ddau y bydd milwyr Prydeinig yna hefyd, debyg fel ‘ymgynghorwyr’? Wedyn ‘sdim ond mater amser cyn y bydd galw cynyddol am i filwyr Prydeinig wneud mwy, ac ymuno â’r gad.

Mae ‘na feddylfryd dieflig ymhlith gwledydd pwerus y Gorllewin lle mae’r Dwyrain Canol yn y cwestiwn. ‘Sdim ots am sofraniaeth y gwledydd yna. ‘Sdim hawl ‘da’r bobl yna ddatrys eu problemau eu hunain.

Mae arweinwyr y Gorllewin byth yn dysgu o hanes. Er gwaethaf'r gwersi i gyd a ddysgwyd iddynt maen nhw’n credu o hyd y deuir o hyd i atebion problemau’r byd gyda bomiau a bwledi.
Gwrthdystiad yn erbyn rhyfel yn Irac, Llundain, 15 Chw 03

Gwrthdystiad yn erbyn rhyfel yn Irac, Llundain, 15 Chw 03
In 2001 Afganistan was attacked by the armies of the United States, Britain, and other western countries. Only now are they withdrawing, without winning their war. And many expect that within a year the country will have descended into chaos, with innocent people suffering the most.

In 2003 the same armed forces invaded Iraq. After they left in 2011 the country was effectively left with a civil war. The ultimate price was paid – and is still being paid – by thousands of ordinary people. It is no surprise that the terrorist group ISIL is seen as a saviour by many who are desperate to escape the tragedy caused by the military adventures of the USA and Britain.

In 2011 British and French airforce planes were sent – with the Americans pulling the strings – to bomb Libya. The campaign succeeded in ousting a government which was, despite great failings, stable and improving the standard of living of its people. And the campaign left a critical situation in Libya where the country is now ruled by armed and violent gangs. The government has neither the authority nor the power to establish order, or to protect its own people.

We heard today that British airforce planes will start bombing in Iraq again, this time against ISIL. Does anyone doubt that within a month or two British soldiers will be there also, very likely as ‘advisors’? Then it’s only a matter of time before there is a growing clamour for British soldiers to do more, and to join the fight.

There is an evil attitude amongst the powerful countries of the West where the Middle East is concerned. The sovereignty of countries there doesn't matter. People there have no right to solve their own problems.

The leaders of the West never learn from history. Despite all the lessons they have been taught they still believe that answers to the problems of the world are to be found with bombs and bullets.
20 Med 14 - Gwleidyddiaeth Gwledydd Prydain 20 Sep 14 - Politics of the countries of Britain
Refferendwm yr Alban am Annibyniaeth The Scottish Independance Referendum
Heb bori yn y geiriaduron, debyg y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl mai ystyr ‘democratiaeth’ yw i bobl reoli eu hunain. Felly mae’n deg i gymryd y dylai fod gan bobl o bob gwlad y pŵer gwleidyddol i benderfynu tynged y wlad honno.

Felly pam oedd pob un o’r pleidiau gwleidyddol mawrion yn Llundain mor daer yn gwrthsefyll annibyniaeth i’r Alban? Mae’r un gwleidyddwyr, yn aml iawn, yn protestio’n ffyrnig bod aelodaeth o’r Undeb Ewropiaidd wedi tynnu i ffordd o annibyniaeth yr hyn eu bod yn gweld fel eu gwlad, sef Prydain. Ond - iddyn nhw - dydy’r un egwyddor ddim yn ymestyn i wledydd sydd o dan reolaeth Prydain.

I nifer fawr o bobl collodd ymgyrch y refferendwm ei ffocws ar yr egwyddor o annibyniaeth. Llwyddodd y pleidiau yn Llundain i godi amheuon am beth fyddai’n digwydd yn yr Alban annibynnol i’r system ariannol, i’r gwasanaeth iechyd, i aelodaeth o’r Undeb Ewropiaidd, ac i fanylion penodol eraill. Felly, i rai, collwyd y pwynt. Gall bobl gwlad annibynnol benderfynu ar faterion fel hyn. Rhaid i wlad sydd ddim yn annibynnol ddygymod ar benderfyniadau gwleidyddwyr rhywle arall.

Ond dydy popeth ddim ar goll. Mae’r gath allan o’r cwdyn. Ni fydd llawer o flynyddoedd cyn i gwestiwn annibyniaeth godi eto yn yr Alban. Ac yn Gymru. Bydd llawer yn edrych ymlaen at y dydd pan bydd gwledydd Prydain yn deulu o genhedloedd annibynnol, a phawb yn gweithio gyda’u gilydd i sicrhau y rhennir llwyddiant yn deg.

Without pouring over the dictionaries, it’s likely that most people would think that the meaning of ‘democracy’ is that people rule themselves. Thus it is fair to assume that the people of a country should have the power to decide the fate of that country.

Thus why were every one of the big London political parties so adamantly against independence for Scotland? The same politicians, very often, protest vehemently that membership of the European Union has reduced the independence of that which they see as their country: Britain. But – to them - the same principle doesn’t extend to countries which are under Britain’s rule.

For a lot of people the referendum campaign lost it’s focus on the principle of independence. The London parties succeeded in creating doubt about what would happen to the financial system, to the health service, to membership of the European Union, and to other specific details. Thus, for some, the point was missed. The people of an independent country can decide matters like these. A country which is not independent must depend on the decisions of politicians somewhere else.

But everything is not lost. The genie is out of the bottle. It will not be many years before the question of independence rises again in Scotland. And in Wales. Many will look forward to the day when the countries of Britain will be a family of independent nations, all working together to ensure that success is fairly shared.
30 Gor 14 - Ewrop 30 Jul 14 - Europe
Partneriaeth Drawsatlantig Masnach a Buddsoddiad (TTIP) Transantlantic Trade and Investment Partnership (TTIP)
Heddiw cyhaliwyd rali yng Nghaerdydd gan weithwyr yn y GIG i brotestio yn erbyn y Bartneriaeth Drawsatlantig Masnach a Buddsoddiad (TTIP) a fydd yn rholio droston ni a gwledydd eraill yn Ewrop fel jygarnot di-droi’n-ôl yn ystod y blynyddoedd nesaf. Daeth ond ychydig i’r rali. Nid oedd llawer o’r cyhoedd a gerddodd heibio erioed wedi clywed o TTIP.

Ond er y bydd corfforaethau amlwladol a’r cyfoethog yn elwa’r fawr o TTIP bydd y rhai ohonom yn bellach i lawr y domen yn talu pris enfawr. Mae TTIP yn gytundeb masnach rhydd rhwng yr Undeb Ewropiaidd (UE) a’r Unol Daleithiau. Ond mae’n mynd yn bell, bell tu hwnt na gostwng rhwystrau masnach.

Mae’n amhosibl cael manylion y trafodaethau, ond mae’n ymddangos y gallai TTIP dinistrio llawer o hawliau’r cyflogedig, yn ogystal a gwasanaethau cyhoeddus a mesurau amddiffyn amgylcheddol. Os ydy cwmni yn dweud bod deddfwriaeth gan lwyodraeth yn y meysydd hyn yn rhoi rhwstr iddo gynyddu ei elw, bydd gan y cwmni’r hawl i erlyn y llywodraeth.

Bydd TTIP yn symud y pyst gôl. Hyd yn hyn mae pobl wedi cael o leiaf tipyn o reolaeth – trwy’r system wleidyddol – dros gwmïau enfawr, amlwladol. O dan TTIP bydd gan y cwmnïau reolaeth dros bobl.

Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer i atal preifateiddio trychinebus y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd yn carlamu trwy Loegr. Ond o dan ddeddfwriaeth TTIP bydd ein llywodraeth bron yn ddi-rym. ‘Tasa cwmni mawr preifat yn gwneud cais i redeg rhyw wasanaeth iechyd cyhoeddus ni fydd gan ein llywodraeth yn Ewrop y pŵer i'w hatal rhag llwyddo ar sail ei bod eisiau cadw’r gwasanaeth yn y sector cyhoeddus.

Rwyf wedi bod yn gefnogwr brwd yr UE ers y dechrau. Dyma ffordd o ostwng rhwystrau rhwng gwledydd, ac i’n rhoi ni yn nes at y gwledydd yn Ewrop sydd â mwy o frwdfrydaeth at ddiogelu hawliau eu dinasyddion 'na naill ai llywodraethau Ceidwadol neu Llafur ym Mhrydain.

Ond yn ddiweddar mae’r brwdfrydedd wedi’i lleihau. Er yr argyfwng ariannol yn 2008 mae grym effeithiol yn yr UE wedi gollwng i ddwylo'r y 'Troika', sef biwrocratiaid y Comisiwn Ewropeaidd, Banc Canolog Ewrop a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol. Gadewir gwleidyddion etholedig gyda llai a llai o lais.

Gellid dweud bod rhai o’r gwleidyddion etholedig wedi gwneud llanast enfawr o bethau, yn enwedig wrth ganiatáu ac wedyn peidio datrys yr argyfwng ariannol. Ond os ydy rhai ohonynt yn dwpsinau o leiaf ein twpsinau ni ydynt. Rŷn ni’n eu hethol a gallwn eu diswyddo.

Mae'r policïau neo-ryddfrydol sy’n cael eu gorfodi ar Ewrop - yn arbennig ar wledydd mewn dyled fel Gwlad Groeg a Phortiwgal - yn cael eu penderfynu gan biwrocratiaid di-wyneb heb eu hethol sy'n gaeth i’r byd busnesau mawr.

Os daw i refferendwm ar aelodaeth o'r UE na fyddaf yn ymgyrchu yn erbyn aelodaeth ochr yn ochr â UKIP gyda'u obsesiwn syml am fewnfudwyr. Nid af ar y stomp gyda Torïaid gwrth-Ewrop a’u rhithiau lliw rhosyn o Loegr Bach annibynnol.

Ond ni fydda i chwaith yn ymgyrchu dros Undeb Ewropiaidd a arweinir gan unbennaeth o biwrocratiaid, ac sy'n amlygu ei phobl i ddiflastodau posibl TTIP.
Protest yng Nghaerdydd gan weithwyr GIG yn erbyn TTIP, 30 Gorff 14

Today NHS workers held a rally in Cardiff to protest against the Transantlantic Trade and Investment Partnership (TTIP) which is going to roll across us and other countries in Europe like an unstoppable juggernaut during the next few years. Few came to the rally. Few members of the public who passed by had ever heard of TTIP.

But whilst the multinational corporations and the wealthy will do very well out of TTIP those of us lower down the pile will pay a huge price. TTIP is a free trade agreement between the European Union (EU) and the USA. But it goes much, much further than lowering trade barriers.

It’s impossible to get details of the negotiations, but it appears that TTIP could decimate many employees’ rights, as well as public services and measures to protect the environment. If a company says that government legislation in these fields puts restrictions in the way of making a profit, the company will have the right to sue the government.

TTIP will move the goalposts. Up to now people have at least some control – through the political system – over globalised, multinational companies. Under TTIP the companies will have control over people.

For example, the Welsh Government has done a lot to stop the disastrous privatisation of the National Health Service which is galloping ahead in England. But under TTIP legislation our government will be almost powerless. If a big private company bids to run a public health service our government will have no power to stop them on the grounds that it wants to keep the service in the public sector.

I’ve been a keen supporter of the EU since the start. This has been a way of lowering barriers between countries, and putting us closer to those European countries which are much keener on protecting their citizens’ rights than either Conservative or Labour governments in Britain.

But recently that enthusiasm has been dampened. Since the financial crisis in 2008 effective power in the EU has leaked into the hands of the ‘Troika’, the beaurocrats of the European Commission, the European Central Bank and the International Monetary Fund. Elected politicians have less and less say.

It could be said that those elected politicians have made a huge mess of things, especially in allowing and then not solving the financial crisis. But if some of them are idiots at least they are our idiots. We elected them and we can sack them.

The neo-liberal politicies being forced on Europe – especially on indebted countries like Greece and Portugal – are being decided by unelected and faceless beaurocrats who in reality are in the pockets of big business.

If it comes to a referendum on membership of the EU I will not campaign against membership alongside UKIP with their simplistic obsession about immigrants. Neither will I go on the stomp with anti-Europe Tories and their rose-coloured illusions of Little England.

But neither will I campaign for a European Union which can let itself be led by the nose by a dictatorship of beaurocrats, and which exposes its people to the potential miseries of TTIP.


16 Meh 14 - Gwleidyddiaeth Cymru 16 Jun 14 - Welsh Politics
Llyfrgelloed a Banciau Libraries and Banks
Newyddion da heddiw; yn dilyn ymgyrch egnïol a grymus gan bobl leol mae Llyfrgell Rhydfelen wedi’i hail-agor. Ond o hyd, dros Fwrdeistref Rhondda Cynon Taf i gyd, mae 13 allan o 26 llyfrgell gyhoeddus wedi’u cau. Gwyddom ei fod yn anodd i’r Cyngor, sy’n wynebu toriadau enbyd yn yr arian a ddaw o’r Llywodraeth. Ond sut bydd ardal sydd â nifer fawr o bobl ddifreintiedig yn dringo allan o dlodi os caeir llyfrgelloedd – rhai o’r lleoedd prin yn y gymuned sy’n darparu adnoddau addysg a hyfforddiant?

Mae sefyllfa o ‘Ni’ a ‘Nhw’ wedi creu rhwng y trigolion a’r Cyngor. Ond y tramgwyddwr go iawn yn hyn o beth yw’r Llywodraeth yn Llundain. Trwy’r 80’au a 90’au roedd llywodraethau Ceidwadol a Llafur ill dau mor awyddus i hybu’r sector gwasanaethau ariannol tynnwyd bron pob rhwystr o’r sector bancio. Daeth y canlyniad yn 2008 gyda chwymp byd eang y banciau. Roedd rhaid i ni - trwy ein trethi - dalu i’w cadw’n mynd.

A byth ers hynny rŷn ni wedi bod yn talu i gadw’r bancwyr yn gyfforddus. Dyna le mae ein harian ni wedi mynd, a dyna pam does dim ar ôl i gynnal ein llyfrgelloedd. Neu ein hysgolion meithrin. Neu ein canolfannau dydd. Neu lawer o wasanaethau eraill sydd yn angenrheidiol i rwystro tyfiant dieflig ‘tlodi cymunedol’.

Mae’n wirion i gadw tynged economi Cymru yn nwylo gwleidyddwyr, bancwyr, a chwmnïau mawr yn Llundain. ‘Sdim gobaith gwella safon byw pobl Cymru a gweld economi’r wlad hon yn ffynnu hyd nes i bobl Cymru gael rheolaeth llwyr dros economi Cymru.
Protest yn erbyn cau Llyfrgell Rhydfelen am 31 Mai 14

Protest yn erbyn cau Llyfrgell Rhydfelen am 31 Mai 14

Ail-agor Llyfrgell Rhydfelen am 16 Mehefin 14
Good news today; following an energetic and powerful campaign by local people Rhydyfelin Library has re-opened. But still, throughout Rhondda Cynon Taf Borough, 13 out of 26 public libraries have closed. We know it’s difficult for the Council, which is facing huge cuts in the money coming from the Government. But how will an area with a large number of disadvantaged people climb out of poverty if libraries are closed – some of the few places in the community which provide education and training facilities?

An ‘Us’ and ‘Them’ situation has been created between the residents and the Council. But the real culprit in this is the Government in London. Through the 80’s and 90’s both Conservative and Labour governments were so anxious to promote the financial services sector that almost all restrictions were taken off the banking sector. The result came in 2008 with the world-wide banking crash. We had – through our taxes – to pay to keep them afloat.

And ever since then we have been paying to keep the bankers comfortable. That is where our money has gone, and that is why none is left to support our libraries. Or our nursery schools. Or our day centres. Or many other services which are needed to prevent the evil growth of ‘communal poverty’.

It’ is farcical to keep the fate of Wales’ economy in the hands of politicians, bankers, and big companies in London. There is no hope of improving the standard of living of the people of Wales and seeing the economy of this country flourish until the people of Wales get full control of the economy of Wales.


7 Maw 14 - Darlledu 7 Mar 14 - Broadcasting
Radio Cymru - Dafydd a Caryl Radio Cymru - Dafydd and Caryl
Heddiw clywsom yr olaf o raglenni boblogaidd Dafydd a Caryl. Piti. Dydd Llun nesaf bydd rhaglen Dylan Jones yn cymryd ei le. Gydag agwedd gelynaethus at y Gymraeg yn rhai o'i raglenni cynt nid yw'r gwrandawr hwn yn edrych ymlaen at y newid. Today we heard the last of the popular Dafydd a Caryl programmes. A pity. Next Monday a progamme with Dylan Jones will take its place. With the antagonistic attitude to Welsh taken in some of his previous programmes this listener is not looking forward to the change.


10 Ion 14 - Llywodraeth Leol 14 Jan 14 - Local Government
Mae'r toriadau'n taro'r tlawd The cuts are hitting the poor
Mae'r cyfoeth yn mynd yn gyfoethocach, a'r tlawd yn mynd yn dlotach. Dyma'r gwir am y toriadau enfawr sy'n degymu gwasanaethau cynhoeddus lleol ar hyn bryd.

Rydym newydd clywed bod Cyngor Bwrdeisdref Rhondda Cynon Taf wedi penderfynnu, heb rybudd neu ymgynhoriad gyda'r cymuned, i gau ein llyfrgell yma yn Rhydfelen.

Yn gwario'n harian ni i'w clodfori eu hunain The rich get richer, and the poor get poorer. That's the truth about the huge cuts currently decimating local public services.

We have just heard that Rhondda Cynon Taf County Borough Council have decided, with no notice and without consultation with the community, to close our library here in Rhydfelen.