Ελλάδα Groeg

Dyma ychydig o luniau a dynnwyd yn yr Hydref 1979. Nid oeddem yn bwriadu treulio mwy nag ychydig o ddyddiau yn Groeg. Roeddem wedi dal y 'Bws Hud' o Lundain, ac ar ôl aros yn Genève yn y Swisdir am ychydig o ddyddiau a phasio trwy'r Eidal ac Iwgoslafia (fel yr oedd) roeddem yn gobeithio casglu tocynnau awyren i hedfan i'r Aifft. Ond nid oedd pethau mor syml. Oherwydd prinder arian roedd rhaid i ni brynu'r tocynnau rhataf posibl, a daethom o hyd iddynt mewn bwth ar blatfform gorsaf trên twrch yn Shepherds Bush, Llundain. 'Sdim rhaid dweud - wrth gyrraedd Groeg doedd neb yn fodlon cydnabod y talebau teneuon a oedd 'da ni fel tocynnau dilys, a chymerodd wythnosau i ddatrys y broblem. Yn ystod y cyfnod o drio troi talebau mewn tocynnau roeddem yn teithio'n ôl ac ymlaen rhwng Athen a sawl un o'r ynysoedd. Dyma rai o'r luniau a dynnwyd ar y pryd.

 


Ynys Idra Ynys 'Idra Ynys Idra Ynys Poros Ynys Poros Ynys Poros Πειραιάς Piraeus Athen Athen Athen Athen Athen Athen Ynys Syros Ynys Syros Ynys Syros Ynys Syros Ynys Syros Ynys Syros
Tynnwyd pob un o'r lluniau uchod gennyf fi. Mae croeso i chi eu defnyddio ar yr amodau canlynol:
Yn ôl i'r dudalen gartref