De Affrig

Yn 1978 nid oedd gennyf unrhyw fwriad i fynd i Weriniaeth Dde Affrig, ac eithrio'r daith anochel mewn bws rhwng Maes Awyr Jan Smuts (yr enw ar y pryd) ger Johannesburg a Lesotho. Roedd Apartheid ar ei anterth, a boicot cryf mewn grym trwy nifer fawr o wledydd yn erbyn prynu nwyddau o Dde Affrig, trefnu chwaraeon yn erbyn De Affrig, neu fynd i Dde Affrig.

Ond pan roeddwn yn Lesotho - gwlad fach a amgylchir yn llwyr gan y Weriniaeth - dywedodd sawl ffoadur o Dde Affrig y byddwn yn colli cyfle euraidd pe bawn i fod mor agos, ond heb gymryd y cyfle i weld y wlad gyda fy llygaid fy hun. Felly cefais gyflwyniad i ychydig o bobl yn Johannesburg a Pretoria oedd yn debyg o roi croeso i fi, ac euthum dros y ffin.

Ymddiheuriadau am safon y lluniau yn rhan yma'r safle. Cafodd y sleidiau a dynnais yn Ne Affrig eu defnyddio mewn dwsinau o gyfarfodydd a ralïau gwrth-apartheid cyn cael eu digido. Dydy'r rhai gorau, a'r rhan fwyaf, ddim wedi goroesi.

Maes Awyr Jan Smuts Nid oedd cyrraedd De Affrig yn brofiad cyfforddus. Cyn i neb gael adael yr awyren roedd rhaid aros bron awr tra aeth griw o heddweision parafilwrol yn cario gynnau is-beiriant Uzi trwy'r awyren, yn archwilio dogfenni'r teithwyr.

Dyma arwydd yn ardal gyrraeddiadau y maes awyr, yn Affricâns ar y chwith, Saesneg ar y dde, yn gwneud y sefyllfa'n blein. Tipyn anodd i ddarllen, ond mae'r tri arwydd ar y top yn cyfeirio pobl at y: "Licensed Bar / White", "Waiting Room / White", a'r "Coffee Bar / non-white".

Y Tŵr Hillbrow Adeiladwyd y tŵr yma fel Tŵr JG Strijdom (Prif Weinidog De Affrig gynt) yn ardal Hillbrow o Johannesburg rhwng 1968 a 1971, ond roedd wedi'i ail-enwi i Dŵr Hillbrow cyn fy hymweliad i. Ar adeg ei adeiladu dyma oedd y strwythur artiffisial talaf yn Affrig, gyda bwyty poblog yn agos at y copa. Pan roeddwn i yna roedd y tŵr ar agor i ymwelwyr, ond yn fuan wedyn - ar ôl bygythiadau gan aden arfog y Gyngres Affricanaidd Genedlaethol (ANC) i'w chwythu - cafodd ei gau. Mae wedi aros ar gau ers hynny.
Golygfa Golygfa o gopa Tŵr Hillbrow, yn edrych tuag at y De Orllewin dros fwynfeydd aur y Reef gyda maestrefi Orlando a Soweto yn y pellter. Hillbrow, lle saiff y Tŵr, yw ardal gymharol gyfoethog lle caniatawyd yr hawl i drigo i bobl gwynion yn unig.

Cwrddais â nifer o bobl hyfryd a charedig, ond i ymwelwr o du allan roedd Hillbrow fel ardal o dan warchae. Gyda barrau ar bob ffenestr, tri neu bedwar clo ar bob drws, gwarchodwyr diogelwch arfog ym mhob man, a'r lefel troseddau yn brif bwnc mewn sgwrs roedd yn anodd meddwl bod y trigolion yn mwynhau eu cyfoeth rhyw lawer.

Injan Stêm Nid oedd Gweriniaeth Dde Affrig yr unig wlad yn y byd lle'r oedd agweddau o'r gyfundrefn wleidyddol yn wrthun, ond roedd rhaid cofio bod mwy i'r wlad na'r problemau. I fi - ffan trenau stêm ymhlith mathau eraill o gludiant - mwynheais weld ceffylau haearn yn rhedeg o hyd, deg mlynedd ar ôl iddynt ddiflannu o gledrau gwledydd Prydain.

Ond roedd dyddiau rhedeg yr injan yma drosodd. Adeiladwyd yn Lloegr yn 1917 ac roedd yn gweithio hyd 1972. Roedd wedi ymddeol erbyn hyn, ond cedwid y paent yn ffres a sglein ar y pibellau mewn man lle y'i gwelwyd gan filoedd o bobl pob dydd. Piti nid ydy'r bobl sydd wedi cynllunio'r man agored diflas y tu allan i orsaf Caerdydd wedi dangos yr un dychymyg.

Bws Troli A thestun cludiant arall. Wyth mlynedd ar ôl iddynt ddiflannu o strydoedd Caerdydd roedd bysiau troli i'w gweld ar strydoedd Johannesburg o hyd. Heb cyfle pellach i deithio mewn un yng ngwledydd Prydain roeddwn wrth fy modd i'w gweld yma. Ond dyma wers arall yn fy ngwrs carlam am apartheid. Esboniodd y tocynnwr yn gwrtais, ac yn llawn ymddiheuriadau, nad oedd yn bosibl i fi deithio ar ei fws troli e neu unrhyw un arall yn y ddinas. Roeddent ar gyfer pobl 'nie-blanke' yn unig.

Cefais ddeall yn hwyrach oddi wrth ffrindiau yr ystyrid bysiau troli fel rhywbeth hen ffasiwn, ac yn israddol i fysiau modern disel. Felly roeddent yn iawn ar gyfer teithwyr duon 'israddol', ond nid i'r bobl gwynion. Ac yn wir, ymhen wyth mlynedd i'm hymweliad diflannodd y bws troli o strydoedd Johannesburg. Disodlwyd rhan o'r system cludiant cyhoeddus oedd yn lan, tawel, bron yn rhydd o lygredd a gydag isadeiledd sy'n awgrymu sefydlogrwydd, gan fysiau disel brwnt, sy'n pwmpio mwg gwenwynig i'r awyr ac yn defnyddio tanwydd ffosil prin.

Golygfa stryd yn Hillbrow Er dynodwyd Hillbrow ar gyfer pobl gwynion, nid oedd prinder o bobl dduon ar y strydoedd. Cyflogwyd llawer fel gweision domestig, mewn swyddi iau yn y swyddfeydd, ac yn glanhau a stocio silffoedd yn y siopau (er ni welais yr un cynorthwyydd siop du yn gweini ar gwsmeriaid gwynion). Fel yn y llun yma, byddai nifer yn dod i'r dref o faestrefi megis Alexandria, Orlando a Soweto i ymgasglu ar y stryd, gan obeithio y byddai cyfleoedd gwaith yn ymddangos.

Ymhlith pobl gwynion roedd agweddau gwahanol iawn tuag at y mwyafrif du. Gyda dim ond ychydig o eithriadau, byddai'r bobl Afrikaans 'mod i wedi cyfarfod â nhw yn dadlau yn gryf o blaid system apartheid eu gwlad. Yn aml bobl garedig, dosturiol oeddent, oedd ddim yn deall pam nid oedd y byd yn eu deall nhw. Ond nid oedd yn bosibl rhoi ochr arall y ddadl. Fel y mae pobl yn Israel heddiw yn osgoi cyfiawnhau dwyn tir y Palestiniaid ar y lan orllewinol trwy ddweud mai Duw sydd wedi rhoi'r tir iddyn nhw, byddai pobl Affricâns yn osgoi trafodaeth trwy ddweud bod Duw wedi rhoi'r dyn gwyn uwchben y dyn du (pob tro y 'dyn'), a does dim rhagor i'w ddweud.

Ond yn aml byddai'r person o dras Seisnig yn dweud (i aralleirio): "Wrth gwrs mae apartheid yn wrthun, ond beth allaf i wneud? Mae grym gwleidyddol yn nwylo'r Afrikaaners." Ac wedyn byddai e'n parhau ar ei ffordd i'r banc, gyda'r elw yr oedd yn ennill trwy system oedd mor wrthun iddo/i.

Siop Crefftau Affricanaidd Roedd sawl siop crefftau Affricanaidd yn Johannesburg a Pretoria. Eu cwsmeriaid targed oedd, yn bennaf, twristiaid o dramor. Ond erbyn 1978 roedd y boicot o Dde Affrig oherwydd polisïau apartheid y Llywodraeth yn effeithio ar y nifer o dwristiaid a oedd yn dod i'r wlad.

Roedd yn ymddangos i fi yr oedd y siopau crefftau Affricanaidd, fel yr un yma, bron yn wag. Wrth edrych ar y labeli yn y siopau gwelais y gwnaethpwyd bron popeth oedd ar werth yn Ne Affrig neu'r gwledydd cyfagos, megis Lesotho, Namibia a Botswana. Nid oedd unrhyw arwydd o'r amodau cynhyrchu. Oedd pobl dduon yn berchen ar y busnesau oedd yn cynhyrchu'r nwyddau? Oedd y gweithwyr yn cael cyflogau teg? Oedd yr arian a godwyd trwy werthu'r nwyddau yn elwa pobl yn yr ardaloedd duon?

Golygfa stryd yn Johannesburg Yn aml iawn yn Ne Affrig cefais deimlad yn debyg i'r un yn Israel, wyth mlynedd yngynt. Roedd pŵer yn nwylo un garfan o'r bobl yn unig. Rhywsut roedd angen gan rhai ymhlith y garfan honno ddangos i bawb - ac yn arbennig i ymwelwyr - mai nhw oedd y meistri. Ac felly'r ymddygiad yma, ar un o bryf strydoedd y ddinas yng nghanol y dydd, a heb - hyd y gwelais - ysbardun alcohol y tu ôl iddo.
Golygfa stryd yn Johannesburg Ochr arall i stori'r bobl yn y llun uchod yw triniaeth mwyafrif y boblogaeth, y bobl dduon. Dyma ddyn yn cael ei arestio ar ôl cael ei holi gan yr heddlu. Mae'n ymddangos nad oedd yn cario ei baslyfr, neu'r drwydded angenrheidiol i fod yn ganol y ddinas.

Ymddiheuriadau am safon y llun. Roedd yn hwyr yn y prynhawn gyda'r golau yn pylu, ac roedd rhaid i fi dynnu'r llun yn sydyn heb gyfle i gywiro'r ffocws neu osodiadau eraill. Wrth bwyntio'r camera yng nghyfeiriad yr heddlu ces i sawl sibrwd yn fy nglust i'w roi i gadw, neu byddwn i yn denu sylw'r heddlu hefyd.

Cofadail Kruger yn Pretoria Saif y cofadail yma, i Arlwydd Paul Kruger, o flaen Tŷ Senedd y wlad yn Bryntirion, Pretoria. Paul Kruger oedd arlwydd De Affrig ar ddiwedd y 19fed ganrif, ac yn arweinydd y lluoedd Boer yn y ddau ryfel a ymladdwyd yn erbyn byddin Prydain.

Rhoddwyd enw Cymraeg i'r ardal lle saiff y gofadail a'r Senedd, ardal a ddatblygwyd ym mlynyddoedd cynnar y 20fed ganrif. Dywedodd breswylydd y ddinas i fi mai dylanwad y niferoedd mawr o fwyngloddwyr o Gymru a oedd yn heidio i Dde Affrig ar y pryd oherwydd darganfyddiad aur a diemwntau oedd yn gyfrifol am yr enw.

Argae Hartbeespoort Cyflenwir gan Argae Hartbeespoort dŵr dyfrhau i ardal eang ar lannau Afon Crocodile yng Ngogledd Orllewin y wlad. Roedd yn cael ei ystyried fel targed gwerthfawr i adain filwrol yr ANC, ac roedd yn verbode i ymwelwyr.

Ond gyda ffrindiau mi es i'r argae, gan anwybyddu arwyddion yn Affricâns, Saesneg, Sotho a Sesotho ('dw i'n meddwl), yn ein rhybuddio i gadw draw.

Cyn bo hir, wrth gwrs, cyrhaeddodd platŵn o filwyr. Anwybyddodd y swyddog cyfrifol y ffrindiau oedd 'da fi - merched i gyd - a chyfeiriodd ei gwestiynau ataf yn unig. Atebais yn Gymraeg. Trïodd holi ei gwestiynau yn Affricâns, Saesneg a Phortiwgaleg. Ond ar ôl cyfnod a deimlodd fel oriau, ond mewn gwirionedd oedd dim ond tua deg munud, penderfynnodd mai grŵp o dwristiaid Almaenaidd oeddem, a doedd neb yn ei blatŵn yn siarad Almaeneg.

Nid oedd hyn yn hollol gywir. Roedd fy ffrindiau i gyd yn siarad Affricâns, sef iaith y sgwrs rhwng y swyddog a'i filwyr, a'i ddisgrifiad ohonom oedd "hurtynnod o dwristiaid Almaenaidd"!

Tynnwyd pob un o'r lluniau uchod gennyf fi. Mae croeso i chi eu defnyddio ar yr amodau canlynol:
Yn ôl i'r dudalen gartref